Rhannwch lawenydd yr ŵyl y Nadolig hwn drwy gefnogi’r Apêl Siôn Corn

Untitled design (88)

Mae pobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cais i helpu i roi gwên ar wyneb plentyn neu berson ifanc bregus y Nadolig hwn drwy gyfrannu at Apêl Siôn Corn eleni.

Unwaith eto mae adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r apêl flynyddol am deganau ac anrhegion i’r rhai na fyddent o bosibl yn cael anrheg ar ddydd Nadolig fel arall.

Ffefrir cyfraniadau arian parod er mwyn prynu anrhegion addas i blant a phobl ifanc rhwng genedigaeth a 21 mlwydd oed.

Mae gwneud cyfraniad yn broses syml, gallwch roi ar-lein ar dudalen Just Giving Awen neu mewn canolfannau ac ar safleoedd pwll nofio Halo Leisure hefyd dderbyn arian parod a chyfraniadau drwy gerdyn wrth eu tiliau.

Pe byddai’n well gennych gyfrannu gydag anrheg, dewch â’ch anrheg yn newydd os gwelwch yn dda. Ni ddylid lapio’r anrheg a rhaid ei gollwng yn y mannau gollwng canlynol mewn bag rhodd:

  • Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Llyfrgell Abercynffig
  • Llyfrgell Betws
  • Llyfrgell Maesteg
  • Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
  • Llyfrgell Pencoed
  • Llyfrgell Porthcawl
  • Llyfrgell/ Canolfan Fywyd y Pîl
  • Llyfrgell Sarn

Gellir gweld oriau agor y llyfrgell ar ein gwefan Awen.

Unwaith eto bydd gwirfoddolwyr yn rhannu’r anrhegion i’w grwpiau oedran addas ac yn eu lapio yn barod i gael eu dosbarthu i gartrefi plant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.

Y dyddiad cau ar gyfer yr Apêl Siôn Corn yw Dydd Llun 4 Rhagfyr 2023.

“Mae’r Nadolig yn gyfnod bendigedig i’r mwyafrif ohonom, serch hynny mae nifer o blant a phobl ifanc yn wynebu deffro ar fore dydd Nadolig heb anrheg i’w hagor o gwbl.”

“Gofynnwn yn garedig i chi roi cyfraniad bach neu ychwanegu anrheg ychwanegol at eich rhestr siopa eleni, er mwyn rhoi gwên ar wyneb rhywun ifanc dros gyfnod y Nadolig.”

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie.

 

Rhannu’r dudalen hon

Troseddau hanesyddol ym Morgannwg

17eg Tachwedd, 11yb yn Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr ac am 2yp yn Llyfrgell Y Pîl. Ymunwch â’r hanesydd Graham Loveluck-Edwards am sgwrs hynod ddiddorol ar droseddau hanesyddol ym Morgannwg, o

Darllen Rhagor

Mae eBapurauNewydd yma!

Ddydd Sul, 1 Hydref lansiodd llyfrgelloedd Awen gynnig eBapurauNewydd am ddim. Gallwch nawr fynd at bapurau newydd dyddiol trwy wefan ac ap Borrowbox, sydd ar gael trwy ein gwefan. BorrowBox

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe