Mae Llyfrgelloedd Awen yn falch i gyhoeddi bod dros 3,000 o gylchgronau a llyfrau sain poblogaidd bellach ar gael i’w lawrlwytho a’u darllen ar unrhyw ddyfais, 24/7. Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby, yr ap darllen o Overdrive sydd wedi ennill gwobrau, neu drwy ymweld â Lawrlwythiadau – Awen Libraries.
Nid oes gan gylchgronau digidol Libby unrhyw restrau aros neu geisiadau, ac nid ydynt yn cyfrif tuag at nifer eich benthyciadau. Gallwch hefyd eu hadnewyddu’n hawdd. Gall benthycwyr Llyfrgelloedd Awen bori rhestrau o gylchgronau o fewn yr ap a chwilio yn ôl fformat i ddod o hyd i deitlau sydd ar gael.
Wedi’i enwi gan Popular Mechanics fel un o 20 ap gorau’r ddegawd, mae Libby yn cysylltu defnyddwyr tro cyntaf a darllenwyr profiadol fel ei gilydd gyda chasgliad digidol Llyfgrelloedd Awen. Gall darllenwyr bori a benthyg teitlau yn syth ac yna dechrau darllen am ddim gyda cherdyn llyfrgell dilys. Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r holl brif gyfrifiaduron a dyfeisiau, iPhone®, iPad®, ffonau a thabledi Android ™ a Chromebook ™. Mae pob teitl yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr. Gall darllenwyr hefyd lawrlwytho teitlau i Libby i’w defnyddio all-lein.
I ddechrau lawrlwythwch Libby neu ewch i’n tudalen Lawrlwytho i gael mynediad at gylchgronau a llyfrau sain trwy’r porwr gwe.