Amdanom ni

Mae ein chwe llyfrgell lawn-amser, dwy lyfrgell gymunedol ran-amser a’r gwasanaeth dosbarthu Llyfrau ar Olwynion i gartrefi yn cael eu rheoli gan elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym hefyd yn cefnogi ac yn cyflenwi dwy lyfrgell mewn lleoliadau sy’n cael eu staffio a’u rheoli gan Halo Leisure ac sydd â chasgliad mawr o lyfrau. Mae ein hadnodd hanes lleol a theuluoedd ym Maesteg yn gartref i gasgliad sylweddol o ddeunydd ymchwil. 

Diben Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yw ‘gwella bywydau pobl’ a thrwy ein llyfrgelloedd rydym yn ymrwymo i wella llythrennedd pobl o bob oed; cefnogi darllen er pleser drwy fentrau fel Sialens Ddarllen yr Haf; gwella lles ac ymdrin ag allgau digidol drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau; a darparu cyfleoedd diduedd i fanteisio ar ffynonellau gwybodaeth dibynadwy. Ni oedd y gwasanaeth llyfrgell cyntaf yng Nghymru i ddileu dirwyon am ddychwelyd llyfrau’n hwyr.

Mae Llyfrgelloedd Awen yn cynnal arolygon i oedolion a phlant. Roedd canlyniadau arolwg 2021/22 yn amlygu pwysigrwydd y staff, y gweithgareddau, y lle a’r adnoddau (llyfrau, cyfrifiaduron, argraffwyr ac ati) yr ydym yn eu darparu i’n cwsmeriaid. Yn yr arolwg oedolion, roedd 64% wedi nodi’r staff yn gryfder; roedd eraill wedi nodi’r lle, yr awyrgylch neu amgylchedd y llyfrgell ac adroddodd dros chwarter y rhai a atebodd yr effaith negyddol y byddai cael gwared ar y llyfrgell yn ei chael ar eu hiechyd meddwl. 

Ein Hamcanion 2022 - 2025

Amcanion Effeithiau Cymdeithasol Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud Cerrig Milltir Allweddol
Gwell cyfleoedd bywyd:
I greu gwell cyfleoedd bywyd drwy ymgysylltu â mwy o bobl, gwella llythrennedd a llythrennedd digidol, cefnogi darllen er pleser, hyrwyddo annibyniaeth a lleihau ynysu cymdeithasol.
Cynyddu nifer y gweithgareddau a’r digwyddiadau.
Gweithio gyda mwy o bartneriaid a chynnal mwy o ddigwyddiadau yn y gymuned.
Sicrhau bod ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn atyniadol a diddorol a chreu dolenni i’n digwyddiadau a mynediad hawdd i’n hadnoddau ar-lein.
Llyfrgell Neuadd y Dref Maesteg yn agor.
Ymgynghori â’r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr.
Cynllun marchnata ar waith.
Sesiynau llythrennedd gwybodaeth wedi’u creu a’u hysbysebu ar gyfer plant ac oedolion, ysgolion a grwpiau.
Noddi Sialens Ddarllen yr Haf
Gofodau Cymunedol:
Creu profiad cofiadwy a chadarnhaol drwy gynnig lle i’r gymuned sy’n diwallu eu hanghenion, yn cynnig hyblygrwydd, yn groesawgar ac yn ddiogel, ac yn gallu cynnal gwahanol weithgareddau.
Ad-drefnu y lle sydd ar gael yn ôl yr angen a chreu cyfleusterau addas i’r diben fel mannau gweithio gartref, WiFi, argraffu diwifr, a gwell hygyrchedd.
Mwy o waith partneriaeth.
Hyrwyddo ein safleoedd a’n gwasanaethau fel bod mwy o bobl yn ein defnyddio ni fel lle i weithio.
Agor Llyfrgell Neuadd y Dref Maesteg.
Ailddatblygu Llyfrgell Pencoed.
Cynnal arolwg o’n defnyddwyr a’r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr i ddeall yr angen ar hyn o bryd.
Agor Llyfrgell Neuadd y Dref Maesteg.
Cwblhau ailddatblygu Llyfrgell Pencoed.
Argraffu Bluetooth.
Ad-drefnu llyfrgell Abercynffig a gosod toiledau sy’n hygyrch i bobl anabl.
Arolwg o ddefnyddwyr TG a rhai nad ydynt yn defnyddio TG.
Nodi rhaglen amnewid caledwedd.
Adnewyddu Llyfrgelloedd Betws a Sarn i wella cynlluniau a hyblygrwydd y safle.
Lles:
Cefnogi adfywio cymdeithasol a gwella lles drwy wella cyfleoedd i fanteisio ar wybodaeth iechyd, lleihau ynysu cymdeithasol a gwella lles cyfranogwyr.
Cynyddu nifer y gweithgareddau sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol.
Cynyddu nifer y gweithgareddau sy’n ymwneud â lles.
Gweithio gyda mwy o bartneriaid iechyd a lles.
Gweithio’n agosach gyda’r bwrdd iechyd ar lefel strategol.
Darparu cyfleoedd i bobl ddysgu am lythrennedd gwybodaeth.
Gweithio gyda phartneriaid ac yn y gymuned i sicrhau bod y llyfrgell yn cael ei hystyried yn lle cymunedol defnyddiol ar gyfer gwybodaeth lles i gwsmeriaid a phartneriaid.
Cael ein cydnabod gan asiantaethau lleol fel partner yn yr agenda lles.
Datblygu darpariaeth Llyfrau ar Olwynion (BOW) i amrywiaeth ehangach o deuluoedd ‘sy’n gaeth i’r tŷ’.
Dod yn wasanaeth ‘sy’n cefnogi dementia’.
Datblygu rhaglen weithgareddau lles gyson drwy staff a phartneriaid.
Prynu ail fan Llyfrau ar Olwynion i gefnogi mwy o ddefnyddwyr.
Cyflwyno rhaglen gymdeithasol i ddefnyddwyr Llyfrau ar Olwynion i leihau ynysu.
Sicrhau nawdd ar gyfer rhaglen les.
Sgiliau Bywyd:
Cynyddu sgiliau bywyd a chyfleoedd drwy hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol. Cael effaith gadarnhaol ar lythrennedd a llythrennedd gwybodaeth.
Cynyddu nifer y sesiynau hyfforddi ffurfiol a sesiynau galw heibio anffurfiol sy’n cefnogi llythrennedd digidol a gwybodaeth.
Hyrwyddo ein hadnoddau ar-lein (er enghraifft Encyclopaedia Britannica, eGylchgronnau) sy’n cefnogi llythrennedd a llythrennedd gwybodaeth.
Hyrwyddo gwasanaethau fel cyflenwad llyfrau ac adnoddau ar-lein i ddangos bod ein llyfrgelloedd yn lleoedd defnyddiol i astudio ynddynt.
Gweithio’n agosach gydag ysgolion a phartneriaid ar lefel strategol.
Rhoi cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith ac i wirfoddolwyr feithrin sgiliau bywyd a phrofiad drwy waith.
Rhaglen o sesiynau codio a roboteg untro.
Creu rhaglen Llythrennedd Gwybodaeth ar gyfer dosbarthiadau ysgol.
Creu arlwy gydlynus i ysgolion wedi’i ddarparu drwy dîm Allgymorth ac Ymgysylltu.
Lansio panel ‘Ffrindiau’ er mwyn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc dros gyfnod hirach a chynnig lleoliadau hyfforddiant a phrofiad gwaith i blant a phobl ifanc.
Cynnal arolwg defnyddwyr â rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr ynghylch yr arlwy i blant a phobl ifanc
Amgylchedd:
Defnyddio llai o ynni a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Amnewid ein faniau Llyfrau ar Olwynion a faniau dosbarthu gyda cherbydau trydan.
Amnewid pob golau gyda golau LED.
Ymestyn y ddarpariaeth ailgylchu.
Gosod paneli solar ar adeiladau llyfrgelloedd addas.
Defnyddio llai o betrol and diesel, a lleihau costau cynnal.
Cynnal adolygiadau Insiwleiddio ar lyfrgelloedd annibynnol a gweithredu arnynt.
Investigate longevity of stock if we were to stop using plastic jackets – which would remove the plastic from the system and aid recycling
Future batches of membership cards are to be un-plasticised
Change to LED bulbs when and where possible
Installation of solar panels where possible
Identify opportunities to update heating systems to more energy efficient ones when old systems fail or buildings are refurbished
Purchase batch stocks of stationery, cleaning products and craft supplies, minimising deliveries to reduce carbon footprint
Begin insulation programme
Replace Books on Wheels vehicle with electric vehicle
Replace delivery van with hybrid vehicle

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe