“Art that made us” yn Llyfrgell Maesteg

bod1
Fel rhan o’r ŵyl ‘Art that made us’ rydym yn arddangos un o’r llyfrau mwyaf yng Nghasgliadau Awen yn llyfrgell Maesteg rhwng 19 a 24 Ebrill. Bydd llwybr arbennig i blant yn y llyfrgell hefyd, yn ogystal ag Amseroedd Stori ar thema’r Aifft.

Mae ‘Book of the Dead’ yn dangostestunau o’r hen Aifft, a ysgrifennwyd ar bapyrws tua 3000 o flynyddoedd yn ôl.  Mae’r testunau’n cynnwys darluniau a swynau hud. Byddai’r testunau hyn yn cael eu rhoi ym meddau’r meirwon – credai’r Eifftwyr y byddai hyn yn helpu’r meirwon ar eu taith i’r byd nesaf.

Mae’r llyfr hwn dros 23 modfedd (neu 60 centimetr) o daldra; mae’n rhaid iddo fod mor fawr â hyn i gynnwys darluniau’r sgroliau papyrws gwreiddiol.

Mynediad am ddim a chroeso i bawb!

Rhannu’r dudalen hon

Arddangosfa Gwaed Morgannwg

Arddangosfa hanes lleol yn rhoi manylion unigryw bywyd yn y maes glo. Crëwyd o ddeunyddiau gwreiddiol wedi’u harchifo gan dîm Archifau Morgannwg. ‘Mae’r arddangosfa hon yn rhoi golwg arbennig ar

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.