Awen Yn Cefnogi Cynllun Darllen Yn Dda I Bobl Ifanc Yn Eu Harddegau

rw

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni ar ddydd Llun 10ed Hydref, drwy ymuno â’r Asiantaeth Ddarllen a Llyfrgelloedd Cysylltiedig i lansio’r cynllun Darllen yn Dda i’r Arddegau ar draws ei llyfrgelloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae casgliad llyfrau Darllen yn Well i’r Arddegau wedi’i anelu at gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc, gan roi gwybodaeth, cyngor a chymorth iddynt fel y gallant ddeall eu teimladau’n well a thrin profiadau anodd. Mae’r rhestr lyfrau, sy’n cynnwys teitlau sydd wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg, yn cynnig ystod eang o lefelau darllen a fformatau i helpu darllenwyr llai hyderus ac annog ymgysylltiad.

Mae casgliad eleni o lyfrau wedi ei ddewis a’i gymeradwyo gan weithwyr iechyd proffesiynol fel Prescripsiwn Llyfrau Cymru, GIG Lloegr, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Cymdeithas Seicoleg Prydain, y Coleg Nyrsio Brenhinol a’r Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Brydeinig. Cafodd y prif elusennau iechyd meddwl eu cynrychioli hefyd ac fe’u cyd-gynhyrchwyd  gyda phlant 13 – 18 oed.

Gellir benthyca neu gadw llyfrau trwy fynd i unrhyw un o’r llyfrgelloedd a weithredir gan Awen neu drwy’r catalog ar-lein yn Awen Cultural Trust (sirsidynix.net.uk) Caiff pobl nad ydynt yn aelodau ymuno â’r gwasanaeth llyfrgell ar unwaith, yn gyfrinachol ac am ddim, trwy ein gwefan.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy’n rheoli’r gwasanaeth llyfrgell a danfon i’r cartref ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi menter Darllen yn Well arall yn ein llyfrgelloedd drwy sicrhau bod cyflenwad da o’r llyfrau hyn ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ar gael i’w benthyg neu eu lawrlwytho ar-lein. Gwyddom fod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i’r grŵp oedran hwn, felly ni fu erioed amser mwy priodol i gynyddu ein cynnig o gymorth gyda sicrwydd ansawdd i bobl ifanc yn eu harddegau, fel y gallant ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain. .”

Darllen yn Dda i’r Arddegau yw’r pedwerydd cynllun Darllen yn Dda i’w gyflwyno yng Nghymru, yn dilyn cyflwyno Darllen yn Dda ar gyfer Iechyd Meddwl, Darllen yn Dda ar gyfer Dementia a Darllen yn Dda i Blant yn llwyddiannus.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn falch iawn bod ein partneriaeth ag Awen yn cefnogi menter Darllen yn Well i’r Arddegau ac mae’n addas iawn y bydd y cynllun yn lansio ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

“Mae’n wych y bydd y rhestr ddarllen a ddetholwyd yn ofalus yn cefnogi gwasanaethau presennol ac ar gael mewn llyfrgelloedd lleol, sy’n cynnig mannau croesawgar a thawel i bobl ifanc.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gynnig cymaint o gefnogaeth â phosib yn eu harddegau o ran eu hiechyd meddwl ac mae wedi’i brofi y gall darllen gynnig llawer o fanteision sylweddol i’w lles cyffredinol.”

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024 a’u rhaglen haf o weithgareddau llyfrgell gyda digwyddiad hwyliog i’r teulu yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe