Rydym yn adolygu gwasanaethau llyfrgelloedd digidol Cymraeg ac eisiau gwneud ein defnyddwyr yn rhan annatod o’r broses yma.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall yn well sut mae ein gwasanaethau digidol yn diwallu eich anghenion, a pha newidiadau sydd eu hangen.
Dim ond awr o’ch amser y bydd ein grŵp ffocws eisiau. Gallwch rannu eich syniadau a’ch profiadau gyda ni i’n helpu i ddeall eich anghenion yn well. Bydd y grŵp ffocws yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio Zoom ar Ddydd Iau 10fed o Dachwedd am 11:00 y.b. felly bydd angen i chi allu defnyddio Zoom i gymryd rhan.
Byddem yn wir gwerthfawrogi eich mewnbwn i’r broses. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch y ffurflen ar-lein yma gyda’ch manylion cyswllt erbyn dydd Gwener 4ydd o Dachwedd, a bydd y tîm yn cysylltu â chi.