Cyngor Llyfrau Cymru yn ymuno ag ymgyrch ‘mynd â Chymru i’r Byd’ Llywodraeth Cymru

WELSH FOOTBALL

Fel rhan o Gronfa Cymorth Partneriaid Cwpan y Byd, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn un o 19 o sefydliadau sy’n cefnogi tîm Cymru wrth iddyn nhw deithio i Qatar fis Tachwedd.

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi’r prosiectau a fydd yn hybu ac yn dathlu Cymru yn y twrnamaint. Bydd cyfanswm o £1.8 miliwn yn cael ei rannu rhwng 19 o brosiectau sydd â’r nod o hybu gwerthoedd ein gwlad a gweithio tuag at sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed Cymru.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cael cyllid i gyflwyno llyfrau am ddim ar thema pêl-droed i lyfrgelloedd a banciau bwyd ledled Cymru, i ddod â hud pêl-droed i ddarllenwyr a dathlu cyflawniadau tîm Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause:

“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r rhaglen gyffrous hon a defnyddio angerdd a dathliadau cyflawniadau Cymru yng Nghwpan y Byd i danio cariad at ddarllen ymhlith pobl ifanc a’u helpu i wella’u sgiliau llythrennedd.

Mae darllen a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan enfawr yn ein hiechyd a’n llesiant ac mae Straeon Chwaraeon yn tynnu’r ddwy elfen at ei gilydd. Boed yn helpu cefnogwr pêl-droed i ddod o hyd i lyfrau y byddan nhw’n dwlu arnyn nhw, neu’n darparu ysbrydoliaeth i annog pobl i gymryd rhan mewn pêl-droed, gemau a chwaraeon; bydd plant a phobl ifanc yn gallu dewis o gasgliad eang o lyfrau ar thema pêl-droed i’w mwynhau yn ystod Cwpan y Byd a dathlu lle Cymru yn y twrnamaint.”

Bydd prosiect Straeon Chwaraeon y Cyngor Llyfrau yn darparu casgliad o lyfrau diweddar ar thema pêl-droed, yn Gymraeg a Saesneg, o lyfrgelloedd awdurdod lleol ac i fanciau bwyd ledled Cymru. Bydd y llyfrau ar gael o ddechrau mis Tachwedd ac yn cynnwys amrywiaeth eang o deitlau ar gyfer pob gallu darllen, o ddarllenwyr y cyfnod sylfaen i oedolion. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Mae gennym gasgliad o lyfrau pêl-droed Cymraeg i hyrwyddo Cwpan Pêl-droed y Byd, ac maen nhw ar gael yn holl Lyfrgelloedd Awen. Ewch i’ch llyfrgell leol nawr i gael gafael ar un!

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe