Gyda chyllid Llywodraeth Cymru, mae ‘Heneiddio’n Dda gyda Llyfrgelloedd Cymru’ yn arddangos sut mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio i gefnogi Cymru O Blaid Pobl Hŷn.
Yma yn Awen rydym yn awyddus i annog cynifer o bobl â phosibl i ymgysylltu â’n llyfrgelloedd a gweld beth yn union rydym yn ei gynnig o ran cyfleoedd dysgu, cymorth digidol a dewis eang o weithgareddau a fydd yn datgloi potensial pobl o bob oed.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd meithrin hyder pobl hŷn unwaith eto yn dilyn Covid, ac i’ch cefnogi i ailgysylltu â’ch teulu, ffrindiau a chymunedau.
Mae ein llyfrgelloedd mewn sefyllfa berffaith i ddarparu lle cymunedol sy’n galluogi pobl i ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd i wneud hyn.
Yma yn Awen mae gennym weithgareddau a grwpiau amrywiol sy’n cefnogi Cymru O Blaid Pobl Hŷn. Ymysg y digwyddiadau a’r grwpiau hyn mae: Bore Coffi, Grwpiau Darllen yn ein holl lyfrgelloedd a Grwpiau Crefftau yn Llyfrgell y Pîl a Phencoed.
Dilynwch ein cynfryngau cymdeithasol ar gyfer y newyddion diweddaraf. Gallwch hefyd edrych ar ein tudalen Digwyddiadau ar ein gwefan – Upcoming Events – Awen Libraries (awen-libraries.com) ar gyfer y rhestr lawn.