Fel rhan o’n Gŵyl ‘Trosedd’ rydym yn cynnal cystadleuaeth ‘Stori Drosedd Fer’.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob oed, ac mae croeso i chi gyflwyno stori fer, cerdd, soned neu limrig. Mae dwy reol gadarn:
- Ni ddylai’r testun fod yn fwy na 500 gair (neu 1 ochr o bapur A4).
- Dylid ei deipio ar ffont maint 12.
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth hon yw 4pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr 2022. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr ac mae’r gwobrau yn cynnwys deunydd ysgrifennu newydd hyfryd, a chyhoeddi yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu ar wefan Awen.
Anfonwch eich cais gyda’ch manylion cyswllt at: yllynfi.library@awen-wales.com
Fel arall, gallwch roi ddod a’ch cais i un o Lyfrgelloedd Awen (mewn amlen yn nodi ‘Cystadleuaeth Trosedd/ – cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt).
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich holl greadigaethau gwych!