Dathliadau pen-blwydd Christopher Williams yn 150 oed

Fis Ionawr a thrwy gydol 2023, byddwn yn dathlu genedigaeth Christopher Williams, yr arlunydd enwog o Faesteg, 150 mlynedd yn ôl. Tynnwyd y llun hwn o Christopher Williams tua dechrau’r 1900au gan John Francis Lloyd.

Ganwyd Christopher Williams ar 7 Ionawr 1873, yn Commercial Street, Maesteg. Er gwaethaf dymuniadau ei dad iddo fod yn feddyg, mynnodd Christopher pan oedd yn ifanc y byddai’n dod yn arlunydd, a gweithiodd yn galed i wireddu’r freuddwyd hon.

Byddai Williams yn dod yn un o arlunwyr gorau Cymru, gan ddangos ei waith yn yr Academi Frenhinol yn Llundain, paentio portread llawer o bobl bwysig Cymru, gan gynnwys David Lloyd George, a chael ei gomisiynu i baentio Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1911.

Dysgwch fwy am yr arlunydd lleol enwog Christopher Williams yn yr arddangosfa yn Llyfrgell Maesteg. Mae’r arddangosfa yn cynnwys rhai o feddyliau Christopher ei hun ynglŷn â’i fagwraeth ym Maesteg, ac mae rhai printiau o waith Williams. Cynigir diodydd poeth am ddim fel rhan o Groeso Cynnes y llyfrgell.

Rhannu’r dudalen hon

Ffenestri Ffantastig

Ymunwch â ni fis Chwefror wrth i ni eich gwahodd i ddod â rhywfaint o liw a chreadigrwydd i’n strydoedd trwy gymryd rhan yn ein prosiect Ffenestri Ffantastig. Mae Ymddiriedolaeth

Darllen Rhagor

Ymgyrch Trochi Mewn Darllen

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi partneru â’r elusen genedlaethol The Reading Agency i hyrwyddo’r cysylltiad rhwng darllen rheolaidd a gwell canlyniadau iechyd y gaeaf hwn. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd

Darllen Rhagor

Sesiynau Hanes Teulu

Byddwn yn cynnal sesiynau Hanes Teulu trwy gydol mis Ionawr, Chwefror ac Ebrill yn Llyfrgelloedd Awen. Bydd yna sesiynau galw heibio a gweithdai yn cael eu cynnal gan ein Cynorthwy-ydd

Darllen Rhagor

Cwrs Ukulele Ddechreuwyr

Beth am wneud cerddoriaeth yn y llyfrgell! Dewch draw i Lyfrgell Maesteg a dysgu’r ukulele! O 10am ar 4 Chwefror am chwe wythnos bydd gwersi AM DDIM ar gael yn

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.