Sesiynau Hanes Teulu

Family history Workshops (1)

Byddwn yn cynnal sesiynau Hanes Teulu trwy gydol mis Ionawr, Chwefror ac Ebrill yn Llyfrgelloedd Awen.

Bydd yna sesiynau galw heibio a gweithdai yn cael eu cynnal gan ein Cynorthwy-ydd Llyfrgell Astudiaethau Lleol, Anna Rankin.

Bydd y gweithdai yn y llyfrgelloedd canlynol ar y dyddiadau canlynol, ar yr adegau canlynol:

Llyfrgell Pen-y-bont – Iau 19 Ionawr – 10am – 12pm

Llyfrgell Betws – Mawrth 14 Mawrth – 10am – 12pm

Llyfrgell Porthcawl – Mawrth 14 Chwefror – 10am – 12pm

Llyfrgell Pencoed – Mawrth 4 Ebrill – 10am – 12pm

Yn y gweithdai hyn, bydd Anna yn dangos i chi sut i ddefnyddio Ancestry. Bydd yn ddelfrydol ar gyfer pobl heb unrhyw brofiad neu dim ond ychydig ac sydd eisiau dysgu mwy. Mae croeso i chi alw draw a defnyddio’r cyfrifiaduron, ond does dim pwysau os hoffech ddysgu drwy wylio. Byddwn yn dangos i chi sut i chwilio am enedigaethau, priodasau a marwolaethau, cyn symud ymlaen i’r cyfrifiad, cofrestri plwyf a’r problemau y gallech chi eu cael. Rydym ni i gyd yn ein tro wedi cael trafferthion a gallwn drafod ffyrdd eraill o chwilio. Bydd yn rhoi golwg i chi ar ba adnoddau sydd ar gael yn eich llyfrgell leol ac yn Y Llynfi, ein llyfrgell hanes teulu a lleol.

Bydd y sesiynau galw heibio yn y llyfrgelloedd canlynol, ar y dyddiadau canlynol, ar yr adegau canlynol:

Llyfrgell Abercynffig – Iau 12 Ionawr – 2-4pm

Llyfrgell y Pîl – Iau 2 Chwefror – 10am-12pm

Llyfrgell Maesteg – Iau 9 Chwefror – 2pm-4pm

Mae’r sesiynau galw heibio hyn yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n cael trafferthion ac sydd eisiau ychydig o gymorth, cyngor a phâr ffres o lygaid! Gallwn roi cynnig ar chwiliadau penagored ar Ancestry a ffynonellau posibl eraill o wybodaeth sydd ar gael yn y llyfrgell.

Sylwer nad oes angen trefnu ymlaen llaw.

Cadwch lygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i wybod mwy.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe