Ymunwch â ni fis Chwefror wrth i ni eich gwahodd i ddod â rhywfaint o liw a chreadigrwydd i’n strydoedd trwy gymryd rhan yn ein prosiect Ffenestri Ffantastig.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gofyn i bobl addurno eu ffenestri yn ystod hanner tymor i helpu i greu oriel gymunedol, gan ddefnyddio’r thema ‘Ysbrydoli Cymru’. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhai deunyddiau crefft syml a’ch dychymyg. Byddwn yn rhannu awgrymiadau a syniadau da i chi greu eich arddangosfeydd eich hun, neu gallwch ddod draw i un o’n gweithdai. Bydd pecynnau o ddeunydd crefft ar gael i chi eu prynu hefyd, er mwyn i chi allu ymuno a chreu arddangosfa gartref!
Arddangoswch eich creadigaethau yn eich ffenestri ar 25 a 26 Chwefror, a chofiwch rannu eich arddangosfeydd ffenestr gorffenedig ar-lein gan ddefnyddio’r hashnodau #WonderfulWindows #FfenestriFfantastig er mwyn i bobl eraill eu mwynhau hefyd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ac am syniadau ar gyfer eich creadigaethau, ymunwch â’n grŵp Facebook yma: https://orlo.uk/XpiQl