Gall darllen ychydig bob dydd wneud gwahaniaeth mawr! Mae darllen yn rhoi manteision iechyd a lles amlwg gan gynnwys cysgu’n well, llai o straen a theimlo’n llai unig.
Yma yn llyfrgelloedd Awen rydyn ni’n parhau i gefnogi’r ymgyrch Porwch Mewn Llyfr. Mae gennym ni ddigon o adnoddau ar gael ym mhob un o’n llyfrgelloedd i helpu i hyrwyddo darllen ychydig bach bob wythnos i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl.
Mae gennym y canlynol ar gael:
- Grwpiau Darllen
- Cyflenwad mawr o lyfrau – dim dirwyon am lyfrau hwyr!
- Llyfrau print bras
- Llyfrau llafar i bobl sy’n symud o gwmpas
- eLyfrau ac eLyfrauLlafar
- eGylchgronau
A chymaint mwy!
Yn ystod ein horiau agor, mae drysau ein llyfrgell ar agor bob amser gyda Chroeso Cynnes. Os ydych chi byth eisiau galw heibio am baned a sgwrs, mae croeso i chi bob amser. Mae gennym de, coffi, siocled poeth, bisgedi a mwy yn rhad ac am ddim. Mae gennym hefyd amrywiaeth o jig-sos, papurau newydd, cylchgronau, gemau a mwy.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaethau Diwylliannol Awen “Rwyf mor falch bod Awen yn cymryd rhan yn y fenter Porwch mewn Llyfr. Mae darllen yn ein helpu ni i deimlo’n well, yn ein helpu ni i ymlacio ac yn ein helpu ni i ddysgu mwy am y byd o’n hamgylch. Mae manteision di-ri i ddarllen ac os ydych chi’n ddarllenydd brwd neu newydd ddechrau arni, mae Llyfrgelloedd Awen yma i roi help llaw i chi”.