Byddwn yn dathlu’r arlunydd enwog Christopher Williams, a anwyd yn Commercial Street, Maesteg, ar 7 Ionawr 1873, drwy gydol 2023. Paentiodd Williams frenhinoedd ynghyd â Brwydr enwog Coed Mametz, ond mae yna un paentiad nad yw’n adnabyddus iawn: ‘Gwaith Haearn Maesteg’.
Rhoddwyd y paentiad hwn i ni drwy garedigrwydd perthynas i Williams ac mae’n dangos olion ffwrnais y Gwaith Haearn tua 1900. Bydd y paentiad yn cael ei arddangos yn Neuadd y Dref Maesteg pan fydd yn ailagor i’r cyhoedd, ond mae angen gwaith adfer ar y darlun cyn y gall gael ei arddangos. Roedden ni wrth ein bodd i dderbyn rhodd o £5000 gan y Pilgrim Trust tuag at y gwaith adfer. Rydyn ni nawr yn codi arian i gyrraedd cyfanswm y gost adfer, sef £10,000.