Symud Llyfrgell y Llynfi

342524780_933571727974206_2153745250774410251_n

Mae Llyfrgell y Llynfi wedi symud yn ddiweddar, ond ddim yn rhy bell! Mae gan y llyfrgell le newydd ar y llawr cyntaf yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg, gyda mynediad hawdd ac mae’n barod i agor i’r cyhoedd unwaith eto.

Gallan nhw eich helpu gyda’ch ymholiadau hanes lleol, yn ogystal â gwneud ymchwil i’ch coeden deuluol. Mae’r Llynfi yn ôl ac ar agor ar fwy o ddyddiau: mae’n dal ar agor ddydd Mercher a dydd Gwener (9am-5pm), ac o’r wythnos hon bydd hefyd ar agor bob dydd Iau, o 2pm tan 7pm. Sylwch eu bod yn cau am ginio rhwng 1pm a 2pm.

Oherwydd cyfyngiadau ar allu y cyhoedd i ddod i Ystafell yr Archifau, bydd ein staff bellach yn chwilio am lyfrau ac adnoddau ar eich rhan. Os ydych yn bwriadu ymweld â ni, mae’n well i chi gysylltu ymlaen llaw er mwyn i ni allu dod o hyd i’ch deunyddiau a’u cael yn barod i chi. Cysylltwch â ni ar: yllynfi.library@awen-wales.com Cysylltwch â ni hefyd am apwyntiadau ymchwil hanes lleol, ac am gyfleoedd gwirfoddoli.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i lyfrgell newydd y Llynfi!

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe