Lansio Sialens Ddarllen Yr Haf 2023

SRC WEBSITE USE

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2023 a’i rhaglen o weithgareddau llyfrgell dros yr haf gyda digwyddiad llawn hwyl i’r teulu yng Nghaeau Trecelyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf rhwng 12pm a 3pm. Cefnogir y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymoedd i’r Arfordir, Celfyddydau a Busnes Cymru a Halo Hamdden.

Bydd ‘Hwyl yn y Parc’ yn cynnwys offer chwarae llawn aer Full of Bounce, perfformiadau gan Dance Crazy, gemau anferth, beiciau balans gyda Halo, crefftau a rasys diwrnod chwaraeon gyda Cymoedd i’r Arfordir ac amseroedd stori gyda Llyfrgelloedd Awen. Bydd Bridge FM yn darlledu’n fyw o’r digwyddiad. Mae’r holl weithgareddau yn rhad ac am ddim.

Nod Sialens Ddarllen yr Haf, sydd wedi cael ei rhedeg gan The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ers 1999, yw annog plant i ddarllen o leiaf chwe llyfr llyfrgell dros wyliau’r haf, er mwyn sicrhau nad yw lefelau llythrennedd yn gostwng tra bod yr ysgolion ar gau.

Eleni, y gobaith yw y bydd thema ‘Ar eich marciau, Darllenwch!’ nid yn unig yn ysbrydoli pobl ifanc i fwynhau manteision darllen er pleser, ond hefyd y manteision hynny sy’n gysylltiedig â chwaraeon, chwarae a gweithgarwch corfforol.

Er mwyn annog hyn ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr, bydd plant sy’n cofrestru yn Hwyl yn y Parc neu unrhyw un o lyfrgelloedd Awen yn cael gostyngiad o 25% oddi ar weithgareddau dethol Halo gan gynnwys sesiynau nofio i’r teulu, chwarae meddal dan do JumpInGym, sesiynau cestyll bownsio/chwarae meddal, chwaraeon raced i’r teulu a’r hyn a brynir yn y caffi.

Yn dilyn y lansiad, bydd llyfrgelloedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau gan gynnwys gweithdai AfroSheep Animation, YouTube, Dance Crazy a Zack Franks Movement and Dance. Mae’r holl ddyddiadau a lleoliadau ar gael ar wefan Llyfrgelloedd Awen (Llyfrgelloedd Awen) a’r cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae datblygu a chadw llythrennedd plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i ni ac mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i sicrhau bod aelodau ifanc ein llyfrgelloedd yn parhau i ymddiddori mewn llyfrau mewn ffordd hwyliog a chreadigol. Rydym hefyd yn gwybod y gall gwyliau’r haf fod yn amser drud i deuluoedd sy’n chwilio am ffyrdd o ddiddanu eu plant felly, diolch i gefnogaeth garedig ein sefydliadau partner a’n cyllidwyr, mae ein gweithgareddau llyfrgell yn digwydd yn aml ac maent am ddim.”

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles:

“Trwy annog plant i gymryd rhan yn her ddarllen flynyddol yr haf, maen nhw nid yn unig yn cael hwyl ac yn cadw’n brysur yn ystod gwyliau hir yr haf. Maent hefyd yn cadw ar ben eu cynnydd darllen, i sicrhau eu bod yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi fel darllenwyr mwy rhugl, hyderus a hapus. Byddem yn annog cymaint o blant â phosibl i gymryd rhan a gweld a allwch chi gyrraedd y targed hwnnw o chwe llyfr mewn chwe wythnos!”

Ychwanegodd Cathy Fletcher, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Halo Leisure:

“Mae geiriau a sesiynau ymarfer yn mynd law yn llaw ac rydym yn falch iawn o gefnogi Sialens Ddarllen yr Haf eleni. Gallwch ddod o hyd i lyfrgelloedd yng nghanolfannau Halo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ogwr, Garw a Maesteg.

“Mae thema Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithgaredd corfforol, a thrwy gymryd rhan yn yr her, gall teuluoedd nid yn unig ddarganfod llawenydd geiriau ond hefyd fwynhau gostyngiad rhyfeddol o 25% ar weithgareddau corfforol dethol, hwyliog i’r teulu. yn ein canolfannau hefyd.”

Dywedodd Laura Morris, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer Cymoedd i’r Arfordir:

“Fel cymdeithas dai sy’n rhoi ein cwsmeriaid a’n cymunedau wrth galon popeth a wnawn, rydym yn falch iawn o gefnogi ein partneriaid i ddarparu adloniant addysgol a gweithredol am ddim ar adeg ddrud i deuluoedd lleol. Edrychwn ymlaen at weld faint o blant sy’n cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2023 a chlywed eu straeon haf eu hunain.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Toni Cosson, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, ar 07718 645685 neu e-bostiwch toni.cosson@awen-wales.com

Rhannu’r dudalen hon

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Streic Y Glowyr Yn 40 Oed

Mae diwydiant, ac yn enwedig mwyngloddio glo, yn rhan hanfodol o’n hanes lleol. Roedd y pyllau glo yn dod â gweithwyr i’r cymoedd, gyda threfi’n tyfu yn yr amseroedd gorau

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe