Dewis y Mis y Staff

653788_pick_of_the_month

Gall dewis yr hyn i’w ddarllen nesaf fod yn anodd, felly rydym ni’n gofyn i staff Llyfrgelloedd Awen argymell llyfr bob mis i’ch helpu i ddewis eich un chi. Y mis yma, fe wnaethom ni ofyn i Debra a Emily pa lyfrau sydd wedi eu hysbrydoli nhw fwyaf.

Dywedodd Debra: “Un o fy hoff lyfrau yr wyf i’n ei argymell yw The Book Eaters gan Sunyi Dean. Ffuglen ffantasi ydyw; yn enwedig gan mai realaeth hud yw fy hoff genre ac mae’r llyfr hwn yn gweddu’n dda iawn i’r categori hwnnw. Mae’n stori am fam a fydd yn gwneud unrhyw beth i helpu ei mab, sydd, oherwydd mympwy natur, yn gorfod bwydo ar feddyliau dynol yn hytrach na llyfrau stori. Mae’n stori dywyll lle nad ydych chi byth yn hollol siŵr ym mhwy i ymddiried ac roeddwn i wrth fy modd!”

Dywedodd Emily: “Un o fy hoff lyfrau yw All the Men I Never Married gan Kim Moore. Os oes rhaid i chi ddewis un bardd i’w ddarllen, yna darllenwch Kim Moore. Mae’r cerddi hyn yn bwerus, yn manylu ar brofiadau rhywiaeth bob dydd (Rhybydd am y cynnwys: ymosodiad rhywiol, trais domestig). Mae ei chasgliad cyntaf (The Art of Falling) hefyd yn wych. Cafodd ei gyhoeddi gan y cyhoeddwr Seren o Ben-y-bont ar Ogwr; enillodd ATMINM Wobr Forward”.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe