Lleihau ein hôl troed carbon yn Llyfrgelloedd Awen

Libraries Newsletter Image Template

Yn Awen, rydyn ni wedi ymrwymo i gynaliadwyedd. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy newid ffitiadau golau hŷn gyda i rai LED mwy ynni effeithlon yn holl adeiladau Awen.

Yn fwyaf diweddar, gwnaeth Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ariannu paneli solar yn Llyfrgell Pencoed fel rhan o’i waith ailddatblygu diweddar. Mae’r llyfrgell nawr yn rhedeg yn gyfan gwbl ar bŵer o’i phaneli solar newydd yn ystod oriau agor. Ar ddiwrnodau heulog, rydyn ni hyd yn oed yn allgludo ynni adnewyddadwy yn ôl i’r grid.

Mae newid i ffynhonnell adnewyddadwy yn golygu ein bod ni nid yn unig yn arbed arian ar gostau ynni, ond hefyd yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn symud tuag at sero net.

Ffordd arall yr ydyn ni’n lleihau ein hôl troed carbon yw drwy osod goleuadau LED yn Llyfrgell Porthcawl. Ddydd Mercher 16 Awst, bydd y llyfrgell ar gau tan ddydd Iau 17 Awst er mwyn i’r gwaith gael ei wneud.

Dilynwch ein tudalen Facebook Llyfrgelloedd Awen i gael yr wybodaeth a’r newyddion diweddaraf.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe