Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol ‘Bwyd a Hwyl’

Libraries Newsletter Image Template (4)

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen ysgolion sy’n darparu addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant yn ystod gwyliau’r haf.

Gan ddechrau fel peilot gan Gyngor Caerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu i fod yn rhaglen genedlaethol a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei weinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Yn 2022, roedd 139 o ysgolion yn cynnal y rhaglen ac yn darparu dros 7800 o leoedd i blant bob dydd y bu’n rhedeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu Rhaglen Gwella’r Gwyliau Haf yn 2023 gyda £4.85m wedi’i ddyrannu yn y gyllideb. Bydd CLlLC yn parhau i gydlynu’r broses o gyflwyno’r gwaith drwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner.

Nod y cynllun yw:

  • Gwella Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol.
  • Gwella Cyrhaeddiad Addysgol ac Ymgysylltu â’r Ysgol.
  • Gwell Gweithgarwch Corfforol.
  • Gwella Ymddygiad Dietegol.
  • Gwell Dyheadau.

Dydd Mercher 9 Awst, bydd rhai o aelodau staff Llyfrgelloedd Awen yn ymweld â Choleg Cymunedol Y Dderwen i gynnal sesiwn ar gyfer plant 10 – 12 oed a byddant yn cynnal cwis, sesiynau Lego, chwilair, ‘scrabble’ byd a mwy! Er taw un daith fydd ein staff ni yn ei wneud, bydd y cynllun yn rhedeg drwy gydol gwyliau’r ysgol.

Amcan y sesiynau hyn yw cadw’r plant yn egnïol a’u helpu i fwyta a dysgu mwy am fwydydd iach yn ystod gwyliau’r haf.

Rhannu’r dudalen hon

Cynefin History Quiz

We’re excited to be sharing the new Cynefin History Quiz, which provides teachers with an introduction to historic events and characters in Bridgend County Borough. The online quiz, has been

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe