I gydfynd ag Wythnos Iechyd Meddwl Plant, mae’r elusen Brydeinig The Reading Agency a Libraries Connected yn lawnsio cynllun iechyd meddwl plant newydd fel rhan o’r prosiect ‘Reading Well’.
Mae rhestr darllen Reading Well ar gael i’w harchebu a chasglu yn Gymraeg a Saesneg gan lyfrgelloedd ar draw fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n nhw’n cyffwrdd â phynciau megis gorbryder, colled a bwlio, ac wedi’u dewis yn ofalus gan arbenigwyr ym maes iechyd i genfogi iechyd meddwl a lles plant.