Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i blant gymryd rhan yn rhaglen ddarllen er mwynhad fwyaf y DU! Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant rhwng 4 ac 11 oed i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
Roedd y digwyddiad lansio diweddar yng Nghaeau Newbridge yn llwyddiant ysgubol gydag o leiaf 260 o blant yn cofrestru ar y diwrnod! Roedden nhw i gyd yno gyda rhieni neu warcheidwaid, ac ymunodd llawer â’r Helfa Sporion i ddod o hyd i’r holl gliwiau!
Roedd llawer o weithgareddau hwyliog i’r plant eu mwynhau, o gestyll bownsio ac eitemau chwarae eraill wedi’u llenwi ag aer, i grefftau, robotiaid, amser stori, gwneud llysnafedd ar stondin Gwyddoniaeth Wallgo a rhedeg ras rwystrau. Cawsom ymweliad arbennig gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David OBE, a chofrestrodd ei fab ar gyfer y sialens hefyd.
Cafodd yr holl hwyl ei gofnodi ar gamera gan ein fideograffydd Joe. Dilynwch y ddolen hon – Vimeo ac efallai y gwelwch chi eich hun yn y fideo Lansio Sialens Ddarllen yr Haf!
Diolch yn arbennig i’n holl staff, a’r holl wirfoddolwyr a phobl a helpodd i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac i bawb a ddaeth draw.
Cofiwch fod Sialens Ddarllen yr Haf ymlaen drwy fis Awst, a dechrau Medi. Mae amser ar ôl i blant gofrestru. Bydd deunydd ysgrifennu, medalau, tystysgrifau a mwy i’w hennill pan fydd y sialens wedi ei chwblhau!
I gofrestru, ewch i’ch llyfrgell leol, neu ewch i Sialens Ddarllen yr Haf i gymryd rhan nawr.