Ap Libby

libby website

Mae ein ap Libby digidol yn ffordd wych o fenthyg elyfrau, llyfrau sain, cylchgronau a mwy o’ch llyfrgell leol am ddim!

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael mynediad at ystod enfawr o’r cylchgronau diweddaraf o ble bynnag rydych chi yn y byd ar ein ap Libby, dim ond trwy ddefnyddio cerdyn llyfrgell ddilys?

Mae Libby yn ap darllen gan OverDrive, y mae miliynau o ddarllenwyr ledled y byd yn dwlu arno! Mae’n caniatáu i chi ddarllen ar wahanol ddyfeisiau. Mae Libby hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad all-lein, gallwch lawrlwytho e-lyfrau a llyfrau sain am ddim, ar gyfer darllen all-lein, neu eu ffrydio i arbed lle. Gallwch wrando yn eich car, mwynhau llyfrau sain yn eich car trwy Apple CarPlay, Android Auto, neu drwy gysylltiad Bluetooth.

Mae Libby yn eich galluogi i bori, chwilio, a darganfod. Mae miloedd o e-lyfrau a llyfrau sain, wedi eu dewis â llaw gan eich llyfrgell, ar gael i’w darllen.

Mae llawer o gylchgronau a phynciau i ddewis ohonynt i bawb eu mwynhau, rhai enghreifftiau yw:

  • Hello!
  • Men’s Health UK
  • Good Housekeeping
  • Motor Sport Magazine
  • Woman & Home
  • Autocar
  • Cosmopolitan
  • BBC Gardener’s World
  • Closer
  • Heat

Gan fod llawer o’r cylchgronau hyn yn costio tua £5 yr un, mae yna arbedion enfawr i’w gwneud – heb sôn am arbed papur sydd gymaint gwell i’r amgylchedd.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o fis Mai 2024: Ffuglen:

Darllen Rhagor

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe