Wythnos y Llyfrgelloedd

CILIP_LW-2022_Twitter_WELSH_Later-life

Rydym wedi cyffroi ynghylch Wythnos y Llyfrgelloedd sydd ar ddod! Trefnir Wythnos y Llyfrgelloedd gan CILIP – Y Gymdeithas Lyfrgelloedd a Gwybodaeth ac mae’r cyfan yn ymwneud â dysgu rhywbeth newydd gyda’r llyfrgell.

Cynhelir Wythnos y Llyfrgelloedd rhwng 3 Hydref 2022 a 9 Hydref 2022. Rydym eisiau dangos sut mae ein llyfrgelloedd yn ysbrydoli dysgu i bawb ac yn helpu unigolion i ddatgloi a chyflawni eu potensial ar bob cam o’u bywyd.

Mae’r thema eleni yn ymwneud â llyfrgelloedd fel lle i ddysgu gydol oes. Bydd gan bob llyfrgell wahanol grwpiau fel eu sesiynau Galw Heibio Digidol a Sesiynau Te a TGCh. Bydd Grwpiau Darllen yn cael eu cynnal yn ein gwahanol lyfrgelloedd, Grwpiau Barddoniaeth yn Llyfrgell Pen-y-bont a chymaint mwy!

Cadwch lygad ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a thudalennau Facebook ein llyfrgelloedd unigol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ymhob un i ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd.

Rhannu’r dudalen hon

Cynefin History Quiz

We’re excited to be sharing the new Cynefin History Quiz, which provides teachers with an introduction to historic events and characters in Bridgend County Borough. The online quiz, has been

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe