Cystadleuaeth POBI FAWR Llyfrgelloedd Awen

awen bake off

I ddathlu cyfres newydd The Great British Bake Off, eich tasg chi yw defnyddio ein ap cylchgrawn digidol AM DDIM Libby, i ddod o hyd i rysáit yr ydych chi’n ei hoffi ac i bobi rhywbeth ar gyfer ein cystadleuaeth Bake-Off! Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal tan tua’r 8fed o Dachwedd, ychydig cyn diweddglo The Great British Bake Off.

Ar ôl i chi gwblhau’r her, mae angen i chi dynnu llun o’ch campwaith a’i anfon atom, gan ddweud wrthym o ble y cawsoch chi’r rysáit drwy anfon llun o’r rysáit atom, neu drwy ddweud wrthym o ba gylchgrawn y
daeth. Gallwch chi naill ai anfon lluniau i’n tudalen Facebook Awen Libraries, neu anfon e-bost atom yn: libraries@awen-wales.com

Os nad ydych yn siŵr sut i anfon ffotograffau atom, gallwch ymweld â’ch llyfrgell leol, cysylltu â’ch llyfrgell leol neu ymweld ag unrhyw un o’n sesiynau Galw Heibio Digidol yn ein llyfrgelloedd, lle bydd ein haelodau staff yn fwy na pharod i helpu a chynorthwyo unrhyw ffordd y gallant.

Byddwn yn beirniadu pob cais, a bydd gwobrau ar gael i’w hennill! Edrychwn ymlaen at weld eich holl gampweithiau gwych.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe