Mae oriau agor llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr wedi newid yn ddiweddar, a bellach mae ar agor yn ystod yr awr ginio pan oedd yn arfer bod ar gau, sef 1pm-2pm. Rydym hefyd yn falch o roi gwybod i chi bod ei horiau agor presennol yn cael eu hymestyn!
Yr oriau agor newydd fydd:
Llun/Mercher/Gwener 9am – 6pm.
Dydd Mawrth/Dydd Iau 9am – 8pm
Dydd Sadwrn 9am – 5pm.
Dewch draw i ddefnyddio ein gwasanaethau AM DDIM, gan fanteisio ar ein horiau agor newydd ac estynedig.