Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau rhad ac am ddim y gaeaf hwn ledled y fwrdeistref sirol o 1st Tachwedd 2022 i 31st Mawrth 2023. P’un a ydych chi’n grefftwr, yn ddarllenwr, yn weithiwr neu ddim ond yn chwilio am amser i ffwrdd gyda ffrindiau, byddwch yn sicr o ddiodydd poeth am ddim a chroeso cynnes pa bynnag leoliad a ddewiswch!
Bydd ein llyfrgelloedd yn parhau i agor eu calonnau (a’u drysau!) yn y ffordd arferol i bawb y gaeaf hwn a dyma atgof o’r hyn rydym yn ei gynnig yn safonol (ac am ddim!):
- Staff hynod gyfeillgar
- Wifi am ddim a digon o le i eistedd, gweithio, darllen neu ymlacio
- Papurau newydd, cylchgronau ac wrth gwrs, digon o lyfrau!
- Rhaglen weithgareddau eang gan gynnwys grwpiau darllen, sesiynau crefft, amser stori a llawer mwy
Rydych bob amser yn sicr o gael croeso cynnes yn ein llyfrgelloedd ond y gaeaf hwn bydd hyd yn oed yn gynhesach oherwydd byddwn hefyd yn cynnig:
- Te, coffi, siocled poeth a hyd yn oed cwpanaid o gawl am ddim!
- Rhaglen weithgareddau well wedi’i chyflwyno gan ein staff hynod gyfeillgar
- Jig-sos, gemau bwrdd a setiau Lego ym mhob llyfrgell
Edrychwch ar ein gwefan am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eich llyfrgell.