Bydd Llyfrgell Pencoed ar gau i’r cyhoedd o ddydd Llun 19 Rhagfyr i ddechrau ar y gwaith o’i hailddatblygu. Mae disgwyl i’r llyfrgell ailagor ddechrau mis Mawrth ar gyfer ei dathliad yn 50 mlwydd oed.
Mae’r gwaith ailddatblygu, a fydd yn cynnwys diweddaru’r hen ddodrefn statig gyda silffoedd symudol, creu gofod gweithio/astudio ac adeiladu ystafell gyfarfod gymunedol i grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth i’w defnyddio, wedi’i ariannu gan Gynllun Grant Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy’n rheoli Llyfrgell Pencoed mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhoi arian cyfatebol ychwanegol i osod paneli solar ar do yr adeiladu sy’n wynebu’r de. Mae hyn yn golygu y bydd Llyfrgell Pencoed yn gweithredu gan ddefnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy yn ystod oriau golau dydd.
Tra bydd y llyfrgell ar gau, bydd gwasanaeth Archebu a Chasglu yn gweithredu o Swyddfa Cyngor Tref Pencoed yn Festri Capel Salem o ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023. Bydd staff y llyfrgell hefyd yn ymweld ag ysgolion, meithrinfeydd a lleoliadau cymunedol eraill i gyflwyno digwyddiadau gan gynnwys sesiynau Bownsio a Rhigwm, Grwpiau Darllen, Prynhawniau Crefft, Clybiau Codio, Amserau Stori a sesiynau Cymorth Digidol i breswylwyr. Cofiwch gadw llygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am fanylion.
Cofiwch alw heibio dros y wythnos i gasglu’r llyfrau y byddwch yn eu darllen dros y Nadolig!