Dathliadau pen-blwydd Christopher Williams yn 150 oed

Fis Ionawr a thrwy gydol 2023, byddwn yn dathlu genedigaeth Christopher Williams, yr arlunydd enwog o Faesteg, 150 mlynedd yn ôl. Tynnwyd y llun hwn o Christopher Williams tua dechrau’r 1900au gan John Francis Lloyd.

Ganwyd Christopher Williams ar 7 Ionawr 1873, yn Commercial Street, Maesteg. Er gwaethaf dymuniadau ei dad iddo fod yn feddyg, mynnodd Christopher pan oedd yn ifanc y byddai’n dod yn arlunydd, a gweithiodd yn galed i wireddu’r freuddwyd hon.

Byddai Williams yn dod yn un o arlunwyr gorau Cymru, gan ddangos ei waith yn yr Academi Frenhinol yn Llundain, paentio portread llawer o bobl bwysig Cymru, gan gynnwys David Lloyd George, a chael ei gomisiynu i baentio Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1911.

Dysgwch fwy am yr arlunydd lleol enwog Christopher Williams yn yr arddangosfa yn Llyfrgell Maesteg. Mae’r arddangosfa yn cynnwys rhai o feddyliau Christopher ei hun ynglŷn â’i fagwraeth ym Maesteg, ac mae rhai printiau o waith Williams. Cynigir diodydd poeth am ddim fel rhan o Groeso Cynnes y llyfrgell.

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe