Yr ymgyrch Porwch Mewn Llyfr yn parhau yn Llyfrgelloedd Awen

Dip Into Reading WEB Banner

Gall darllen ychydig bob dydd wneud gwahaniaeth mawr! Mae darllen yn rhoi manteision iechyd a lles amlwg gan gynnwys cysgu’n well, llai o straen a theimlo’n llai unig.

Yma yn llyfrgelloedd Awen rydyn ni’n parhau i gefnogi’r ymgyrch Porwch Mewn Llyfr. Mae gennym ni ddigon o adnoddau ar gael ym mhob un o’n llyfrgelloedd i helpu i hyrwyddo darllen ychydig bach bob wythnos i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl.

Mae gennym y canlynol ar gael:

  • Grwpiau Darllen
  • Cyflenwad mawr o lyfrau – dim dirwyon am lyfrau hwyr!
  • Llyfrau print bras
  • Llyfrau llafar i bobl sy’n symud o gwmpas
  • eLyfrau ac eLyfrauLlafar
  • eGylchgronau

A chymaint mwy!

Yn ystod ein horiau agor, mae drysau ein llyfrgell ar agor bob amser gyda Chroeso Cynnes. Os ydych chi byth eisiau galw heibio am baned a sgwrs, mae croeso i chi bob amser. Mae gennym de, coffi, siocled poeth, bisgedi a mwy yn rhad ac am ddim. Mae gennym hefyd amrywiaeth o jig-sos, papurau newydd, cylchgronau, gemau a mwy.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaethau Diwylliannol Awen “Rwyf mor falch bod Awen yn cymryd rhan yn y fenter Porwch mewn Llyfr. Mae darllen yn ein helpu ni i deimlo’n well, yn ein helpu ni i ymlacio ac yn ein helpu ni i ddysgu mwy am y byd o’n hamgylch. Mae manteision di-ri i ddarllen ac os ydych chi’n ddarllenydd brwd neu newydd ddechrau arni, mae Llyfrgelloedd Awen yma i roi help llaw i chi”.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe