Llyfrgell Pencoed Yn Ailagor Yn Swyddogol

336807158_952879092550902_3371264397573863093_n (1)

Mae Llyfrgell Pencoed wedi cael ei hailagor yn swyddogol yn ei 50ed blwyddyn penblwydd.

Yn ystod ei chyfnod cau byr, mae’r llyfrgell wedi’i thrawsnewid yn llwyr i fod yn ofod llachar, croesawgar i’r gymuned gyfan ei ddefnyddio a’i fwynhau.

Ni fydd ein cwsmeriaid rheolaidd yn credu’r gwahaniaeth!

Diolch i gyllid gan Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae’r dodrefn wedi’i ddiweddaru gyda mwy o opsiynau symudol fel y gellir defnyddio’r gofod yn hyblyg ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau; mae codennau gwaith newydd ar gyfer y rhai sydd angen mannau tawel i ganolbwyntio ar eu hysgol neu eu hastudiaethau; ac mae ystafell gyfarfod gymunedol newydd i grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth ei llogi.

Darparodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n rheoli gwasanaethau llyfrgell ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, arian cyfatebol i osod paneli solar ar y to sy’n wynebu’r de, gan gyfrannu at greu adeilad mwy cynaliadwy.

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o wneud i hyn ddigwydd, o’r tîm yn Llyfrgell Pencoed, staff eraill Awen, Cyngor Tref Pencoed – a fu mor garedig â darparu lle i ganiatáu i’r llyfrgell barhau â benthyciadau llyfrau a digwyddiadau drwy gydol yr ailddatblygiad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu cefnogaeth barhaus, a’r rhai sy’n ymwneud â’r cyfnod dylunio ac adeiladu.

Dros yr wythnos nesaf, bydd Llyfrgell Pencoed yn cynnal eu Cwis Ysgol Diwrnod y Llyfr cyntaf erioed, a bydd eu holl weithgareddau arferol – Bownsio a Rhigymau, Clwb Codio, Amser Stori a Chrefft – yn dychwelyd. Byddant hefyd yn dechrau grŵp darllen i oedolion, grŵp sgwrsio Cymraeg a sesiynau ar gyfer addysgwyr yn y cartref. Dilynwch y Tudalen Facebook Llyfrgell Pencoed am y wybodaeth ddiweddaraf.

Rhannu’r dudalen hon

Easter Egg Appeal

We were overwhelmed by the generous donations of Easter eggs last year, so we’re collaborating with Chris Elmore, MP for Bridgend & Porthcawl, and Bridgend Food Bank once again to

Darllen Rhagor

Safer Internet Month

This February, we are supporting Welsh Government’s Safer Internet Month. We’ve put together some tips to help you stay safe online. Use strong and unique passwords A strong password including

Darllen Rhagor

Crime Month 2025

Crime Month returns to libraries across Bridgend County Borough this November.   We have a killer line-up of Crime Cymru authors waiting in the shadows for our chilling celebration of

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe