Gall dewis yr hyn i’w ddarllen nesaf fod yn anodd, felly rydym ni’n gofyn i staff Llyfrgelloedd Awen argymell llyfr bob mis i’ch helpu i ddewis eich un chi. Y mis yma, fe wnaethom ni ofyn i Cal a Caroline pa lyfrau sydd wedi eu hysbrydoli nhw fwyaf.
Meddai Cal: “Fy hoff lyfr erioed yw American Gods, gan Neil Gaiman (mae’n debyg, mae’n anodd dewis!). Fel rhywun sy’n mwynhau chwedlau a mytholeg, mae’r llyfr hwn wedi addysgu pethau i mi nad oeddwn i’n eu gwybod a hefyd wedi caniatáu i mi ail-ddarllen straeon rwy’n dwlu arnyn nhw mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Mae’n cymysgu mytholegau o wlad Groeg yr henfyd, Aifft yr henfyd, chwedlau Llychlynnaidd a mwy!”
Dywedodd aelod arall o staff: “Fy hoff lyfr erioed yw Only for a Fortnight – My life in a locked ward gan Sue Read. Mae’n rymus iawn ac yn hynod gythryblus”.