Elusen leol yw The Bridge sydd wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i datganiad cenhadaeth yw – chwalu rhwystrau allgau cymdeithasol sy’n atal pobl rhag creu pontydd i ddyfodol mwy cadarnhaol.
Mae eu helusen yn darparu gwasanaethau mewn tri maes allweddol:
- Canolfan Gymunedol
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Gwirfoddoli
Bydd staff ein llyfrgelloedd yn bresennol yn The Bridge i gynnal rhai sesiynau crefft i oedolion yn ystod y misoedd nesaf. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer oedolion o bob oed.
Bydd y sesiwn nesaf ddydd Gwener, 24 Tachwedd – 10:30am – 12pm.
Yn y sesiwn hon, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gwneud cardiau Nadolig.
Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim, a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Archebwch eich lle drwy gysylltu â: 01656 647891. Neu cysylltwch â The Bridge ar-lein.
Bydd sesiwn arall hefyd ddydd Gwener, 22 Rhagfyr – 10:30 am – 12 pm.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan lywodraeth y DG drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.