Gall fod yn anodd dewis eich llyfr nesaf, felly rydyn ni’n gofyn i aelodau o staff Llyfrgelloedd Awen argymell llyfr bob mis i’ch helpu chi i ddewis eich un chi.
Y mis hwn, fe ofynnon ni i Bryn a Neil pa lyfrau sydd wedi’u hysbrydoli nhw fwyaf.
Meddai Bryn: “Un o fy hoff lyfrau i’w argymell yw A Man Called Ove gan Fredrik Backman. Mae’n llyfr gwych sy’n llawn hiwmor a phathos sy’n rhoi dealltwriaeth ardderchog o’r natur ddynol. I ddechrau, wrth ddewis y llyfr, cymerais yn erbyn y prif gymeriad gan iddo fy nharo i fel y math o gymydog sy’n gweld bai ar bopeth, ac a fyddai, hanner can mlynedd yn ôl, wedi bod yn ysgrifennu llythyrau yn rheolaidd at ei bapur newydd lleol am “bobl ifanc heddiw” a “sut nad ydyn nhw’n gwerthfawrogi’r rhai sy’n hŷn na nhw”.
“Dwy neu dair pennod yn ddiweddarach, sylweddolais yn sydyn, “o mam bach, rwyt ti’n mynd i fy ngwneud i fel y diawl blin hwn on’d wyt ti”. Rwyf wedi argymell y llyfr hwn i lawer o ddefnyddwyr y llyfrgell (a’u ffrindiau) a byddaf i’n parhau i wneud hynny. Mae hefyd yn un o’r achlysuron prin yna lle mae addasiad Hollywood o’r ffilm (“A man called Otto” gyda Tom Hanks) bron cystal â’r ffynhonnell grai”.
Meddai Neil: “Un o fy hoff lyfrau i’w argymell yw The Earthsea Quartet gan Ursula Le Guin. Mae bywyd hir a theithiau’r Dewin Ged drwy fyd Earthsea yn stori sy’n cysylltu’r goleuni a’r tywyllwch mewn byd hudol sy’n llawn rhyfeddod a pherygl. Mae’n stori angerddol, sensitif ac wedi’i hysgrifennu’n ddiffuant sy’n eich cyfoethogi’n emosiynol ac yn athronyddol wrth ei darllen”.