Adnoddau Hanes Lleol a Teulu

Mae Llyfrgell Hanes Lleol a Theuluol Y Llynfi ym Maesteg yn gartref i gasgliad sylweddol o ddeunyddiau ymchwil ar gyfer haneswyr lleol a theuluol.

Dim ond ar ficroffilm neu ficrofiche y mae o’r rhai adnoddau ar gael ac rydym yn argymell eich bod yn neilltuo darllenydd cyn eich ymweliad os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r eitemau hyn. Nid ydym yn gallu gwneud gwaith ymchwil helaeth na chwiliadau achyddol ar ran darllenwyr ond gallwn ateb ymholiadau byrrach drwy’r post, dros y ffôn neu drwy e-bost. Mae staff yn cynnig tiwtorial am ddim ar ddefnyddio’r deunydd a gedwir yn y llyfrgell, gan gyfeirio yn benodol at wefan Ancestry. I drefnu sesiwn, ffoniwch 01656 754859.

Mae’n ddrwg gennym am yr anghyfleustra ond mae mynediad at yr adnoddau hyn wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Y Llynfi ar 01656 754810.

Mae mwy o gyfeiriadau ac adnoddau ar-lein ar gael ar ein tudalen adnoddau

Mynegeion genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn y Glamorgan Gazette

Mae papur newydd lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn ffynhonnell amhrisiadwy i haneswyr teuluol gan ei fod wedi darparu manylion genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn yr ardal leol ers 1866. Mae’r gwasanaeth llyfrgell yn ymgymryd â phrosiect i roi’r wybodaeth hon ar gael i ymchwilwyr drwy ein gwefan ac rydym nawr yn rhyddhau cynnyrch cyntaf ein gwaith. Cliciwch ar y flwyddyn berthnasol yn y tabl isod a bydd hyn yn agor dogfen PDF yn cynnwys y data. Dewch yn ôl atom yn y misoedd nesaf gan ein bod yn gobeithio ychwanegu mwy o fynegeion i’r rhestr yn rheolaidd.

1866-1885

1914 – 1918

Genedigaethau
Priodasau (Gŵr)
Priodasau (Gwraig)
Marwolaethau

Mae’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys:

Mynegeion gwybodaeth genedlaethol y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i Enedigaethau, Priodasau a Marwolaethau yng Nghymru a Lloegr 1837 – ar ficrofiche drwy wefan Ancestry

Mynegeion y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i Enedigaethau, Priodasau a Marwolaethau deiliaid Prydeinig dramor 1837 – ar ficrofiche

Mynegai Plant Mabwysiedig y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol 1927 – ar ficrofiche

Mynegai Partneriaethau Sifil y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol 2005 – ar ficrofiche

Ffurflenni Cyfrifiad Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Ynysoedd y Sianel 1841 – 1901 drwy wefan Ancestry Morgannwg Ganol ar ficroffilm a microfiche cyfrifiad mynegeiedig 1881 y DU ar ficrofiche

Mynegai Achyddol Rhyngwladol – mynegai y Mormoniaid i fedyddiadau a phriodasau o gofrestri plwyfi ar ficrofiche

Mynegai Claddedigaethau Cenedlaethol – Cymru a Lloegr 1538 – 2003 CD rom

Mynegeion gwybodaeth leol i gofrestri plwyfi Morgannwg a rhai llyfrynnau cofrestru anghydffurfiol wedi’u casglu gan Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg

Mynegeion i arysgrifau coffa o lyfrynnau mynwentydd Morgannwg a gasglwyd gan Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg prif fynegai ar CD rom

Gwybodaeth Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg ar CD rom, gan gynnwys:

  • Mynegai Bedyddiadau Morgannwg 1569 – 1837
  • Mynegai Bedyddiadau Morgannwg 1569 – 1837
  • Mynegai Priodasau Morgannwg 1569 –  1837
  • Mynegai Claddedigaethau Morgannwg 1569 – 1841
  • Mynegai Claddedigaethau Morgannwg 1838 – 1990 

Euogfarnau Ieuenctid Sesiynau Chwarter Morgannwg 1847 – 1880

Crynwyr yng Nghofrestri Ysgol Babanod Morgannwg Maesteg (Derbyniadau) 1892 – 1930

Cofrestri Derbyniadau Ysgolion Merthyr 1892 – 1930

Cofrestri Derbyn a Rhyddhau Tlotai Caerdydd Hydref 1846 – Rhagfyr 1847

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe