Polisi Preifatrwydd

DIWEDDARIAD DIWETHAF: 01/04/2018

1. Pwy ydyn ni?
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn elusen gofrestredig wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, De Cymru. Ein pwrpas yw gwneud bywydau pobl yn well, trwy ddarparu cyfleusterau diwylliannol ysbrydoledig, gweithgareddau a rhaglenni.

Mae Awen yn denu oddeutu 1,000,000 o ymweliadau’r flwyddyn i ystod amrywiol o gyfleusterau diwylliannol, gwasanaethau a gweithgareddau sy’n cynnwys theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, tŷ hanesyddol a pharc gwledig, a dau brosiect seiliedig ar waith ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu a chorfforol. Mae ein gwaith yn cael effaith sylweddol ar economïau lleol, lles pobl a chydlyniant cymunedol.
Yr wybodaeth gyfreithiol lawn yw:
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen Rhif Elusen Gofrestredig 1166908 yng Nghymru
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru yn Nhŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn CF32 8UU Rhif Cwm. Cof. 9610991
Mae Awen Trading Ltd yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru yn Nhŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn CF32 8UU Rhif Cwm. Cof. 09619638
Mae Awen wedi’i ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro’r data personol a gasglwn a sut rydym yn ei ddefnyddio. At ddibenion deddfwriaeth ddiogelu data, y Rheolwr Data yw Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen (rhif cofrestru ICO ZA186896).
Dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y bydd yr holl ddata personol a gesglir yn cael ei ddefnyddio. Efallai y bydd Awen yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon a dangosir rhestr o’r newidiadau mewn dogfen ar wahân, y gallwch gael mynediad ati drwy’r ddolen uchod.
2. Pa ddata personol yr ydym yn ei gasglu
Rydym yn casglu’r wybodaeth sydd arnom ei hangen yn unig – gan gynnwys data a fydd yn ddefnyddiol i’n helpu i wella ein gwasanaethau.

Rydym yn casglu’r mathau dilynol o wybodaeth:

• gwybodaeth amhersonol megis cyfeiriadau IP (lleoliad y cyfrifiadur ar y rhyngrwyd), tudalennau a gyrchir a ffeiliau wedi’u lawrlwytho.

• gwybodaeth bersonol megis enw, cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni a gwybodaeth ynghylch talu (lle bo’n briodol). Cesglir gwybodaeth mewn cysylltiad â gweithgareddau penodol, megis arolygon cwsmeriaid, trafodion talu, adborth, rhoddion, cymryd rhan mewn cystadleuaeth a phrosesu ymgeiswyr trwy gydol prosesau dethol ac ati.

• Defnyddir Teledu Cylch Cyfyng yn rhai o’n lleoliadau a ddefnyddir gan aelodau’r cyhoedd. Prif bwrpas camerâu teledu cylch cyfyng yn Awen yw gwella diogelwch a chynorthwyo atal a chanfod troseddau ac anhrefn.

Rydym hefyd yn casglu categorïau arbennig o ddata personol gan unigolion sy’n gwneud cais i weithio yn Awen, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch ethnigrwydd ac anabledd (os bydd yr ymgeisydd yn peidio â darparu gwybodaeth). Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth hon i fonitro ystadegau recriwtio.

Os ydym am ddatgelu gwybodaeth yr ymgeisydd i drydydd parti, er enghraifft i gael tystlythyr neu i gael datgeliad o’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ni fyddwn yn gwneud hynny heb roi gwybod i chi ymlaen llaw oni bai fod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Rydym hefyd yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. Gweler y Rhestr o gwcis am ragor o wybodaeth

3. Ein pwrpas ar gyfer prosesu eich data
Mae’r casgliad o wybodaeth amhersonol yn ein helpu i benderfynu faint o bobl sy’n defnyddio ein gwefannau, faint o bobl sy’n ymweld yn rheolaidd, a pha mor boblogaidd yw ein tudalennau. Nid yw’r wybodaeth hon yn dweud wrthym unrhyw beth ynghylch pwy ydych chi neu ble rydych chi’n byw. Mae ond yn ein galluogi i fonitro a gwella ein gwasanaeth.

Mae angen gwybodaeth bersonol i gyflawni eich cais, prosesu’ch archeb, prosesu’ch cais am swydd, ein galluogi i ddarparu gwasanaeth mwy perthnasol i chi, ac os ydych chi’n cytuno, i anfon e-bost atoch am gynhyrchion a gwasanaethau eraill y credwn y gallech fod â diddordeb ynddynt. Nid oes rhaid i chi ddatgelu unrhyw ran o’r wybodaeth hon i bori drwy’r safleoedd. Fodd bynnag, os ydych chi’n dewis atal gwybodaeth benodol, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau i chi.

Bwriedir delweddau CCTV a ddelir ar ein camerâu i wella diogelwch ac i helpu i atal a chanfod troseddau ac anrhefn. Oherwydd natur Gwasanaethau Awen efallai y bydd rheswm hefyd i ddefnyddio deunydd CCTV at ddibenion eraill fel Diogelu Oedolion a Phlant sy’n Agored i Niwed. Ymdrinnir ag unrhyw geisiadau datgelu gan fudiad trydydd parti yn unol â chyfarwyddyd swyddogol ac ar sylfaen unigol.

Gofynnir am Wybodaeth Sensitif/Bersonol ynghylch ymgeiswyr er mwyn monitro ystadegau recriwtio heblaw am le mae ymgeisydd yn llwyddiannus. Pan fydd ymgeisydd yn dod yn gyflogai, mae’r Wybodaeth a ddarparwyd ganddynt yn ffurfio rhan o’r ffeil bersonol ac fe’i defnyddir i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol neu am ystadegau data cydraddoldeb ar gyfer y sefydliad.

4. Yr hyn a wnawn â’r wybodaeth a gasglwn
Mae arnom angen yr wybodaeth hon i ddeall eich anghenion a darparu gwell gwasanaeth i chi, a gellir defnyddio’ch data yn un o’r ffyrdd dilynol:
• Darparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau ichi rydych wedi gofyn amdanynt
• Cadw cofnodion mewnol
• Gwella ein cynhyrchion a gwasanaethau.
• Lle rydych chi wedi rhoi eich caniatâd, efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth
hyrwyddolo bryd i’w gilydd am wasanaethau, cynhyrchion newydd, cynigion neu unrhyw wybodaeth rydym yn credu y gallai fod yn ddiddorol ichi gan ddefnyddio ‘r cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn a ddarparwyd gennych (gweler adran 5, isod).

5. Defnyddio’ch gwybodaeth ar gyfer marchnata
Byddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth at ddibenion marchnata lle rydych chi wedi ‘optio i mewn’ ac wedi cytuno inni anfon rhagor o wybodaeth atoch.

Dim ond mewn ffordd (ffyrdd) rydych chi wedi cytuno y bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon. Mae gwybodaeth farchnata yn cynnwys gwybodaeth gan lyfrgelloedd, parciau, theatrau, canolfannau cymunedol a phrosiectau ar gyfer oedolion ag anableddau.

6. Pwy sy’n derbyn y data personol
Byddwn ond yn rhannu’ch gwybodaeth os:
• Mae’n ofynnol i ni wneud hynny yn gyfreithiol, e.e. gan asiantaeth gorfodi’r gyfraith sy’n arfer pŵer yn gyfreithlon neu os cawn ein gorfodi gan orchymyn y Llys

• Credwn ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu neu amddiffyn ein hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol ein pobl neu ymwelwyr i’n safleoedd neu gwefannau

• Rydym yn gweithio gyda phartner a ddewiswyd yn ofalus sy’n cynnal gwaith neu’n prosesu data ar ein rhan. Mae’r rhain yn cynnwys:

Tai bostio – bydd yn defnyddio data ynghylch enw a chyfeiriad at ddibenion postio’n unig
Proseswyr taliadau cerdyn – bydd yn cadw data ynghylch enw, cyfeiriad a cherdyn at ddibenion prosesu taliadau cerdyn ar ein rhan
Darparwr gwasanaeth tocynnau – bydd yn cadw data ynghylch enw, cyfeiriad a data personol arall megis cyfeiriad e-bost a rhif ffôn er mwyn caniatáu i ni weithredu gwasanaeth tocynnau effeithlon i’n cwsmeriaid
Arbenigwyr TG – darparwyr meddalwedd sydd â mynediad at ddata er mwyn cefnogi cynnal a chadw systemau a diwallu anghenion y contract.

• Dim ond partneriaid y gallwn ni ymddiried ynddynt rydym yn eu dewis. Byddwn ond yn trosglwyddo data personol iddynt os ydynt wedi llofnodi contract sy’n ei wneud yn ofynnol iddynt:
– gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth ddiogelu data
– trin eich gwybodaeth mor ofalus ag y byddem ni yn ei wneud
– defnyddio’r wybodaeth at y dibenion y cafodd ei chyflenwi amdanynt yn unig (ac nid at eu dibenion eu hunain neu ddibenion unrhyw sefydliad arall)
– caniatáu i ni gynnal gwiriadau i sicrhau eu bod yn gwneud yr holl bethau hyn.

7. Diogelwch a storio eich gwybodaeth
Mae gwybodaeth yn cael ei storio ar y gweinyddwyr a ddefnyddir gan drydydd partïon a ddewiswyd yn ofalus fel yr eglurir uchod – efallai y byddant wedi’u lleoli y tu mewn neu’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Efallai y byddwn hefyd yn storio data ar ffeiliau papur.
Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgelu heb ganiatâd, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu a sicrhau’r wybodaeth a gasglwn ar-lein yn erbyn colled, camddefnydd neu newid.

Mae enghreifftiau o’n diogelwch yn cynnwys:
• Dim ond personél awdurdodedig sy’n gallu cael gafael ar wybodaeth ynghylch defnyddwyr ac rydym yn defnyddio technoleg ddiogelwch safonol y diwydiant (megis, TLS/SSL, ond heb fod yn gyfyngedig iddo) i amgryptio gwybodaeth ariannol a phersonol rydych yn ei fewnbynnu cyn iddi gael ei hanfon atom dros y rhyngrwyd.

• Mynediad dan reolaeth i systemau a gwybodaeth trwy lefelau a phrosesau awdurdodedig.

• Lle bo angen, cewch gyfrinair sy’n galluogi mynediad i systemau penodol sy’n dal data personol a’ch cyfrifoldeb chi yw cadw’r cyfrinair hwn yn ddiogel a pheidio â’i rhannu ag unrhyw un.

• Rydym yn hyfforddi ein staff i’w gwneud yn ymwybodol o sut i drin gwybodaeth a sut a phryd i roi gwybod am rywbeth pan fydd pethau’n mynd o’i le.

Cedwir gwybodaeth am gymaint o amser ag sydd arnom ei hangen yn unig, oni bai fod angen ei chadw at ddibenion cyfreithiol neu i sicrhau na fyddwn yn cysylltu â chi os ydych wedi gofyn i ni beidio â gwneud hynny.
Cedwir gwybodaeth bersonol cwsmeriaid am gymaint o amser ag y bydd arnom ei hangen i ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu wybodaeth i chi.
Cedwir gwybodaeth sensitif/bersonol mewn cysylltiad ag ymgeiswyr am swydd am gyfnod o 6 mis. Bydd yr holl ddata naill ai’n cael ei ddileu neu ei rwygo.
Delweddau CCTV – Bydd recordiadau digidol arferol yn cael eu cadw am gyfnod o 31 diwrnod ar yriant caled neu ddisg ac yna byddant yn cael eu trosysgrifo.
Ac eithrio at ddibenion tystiolaethol ni chaiff delweddau eu copïo. Caiff yr holl ddeunydd a recordir a ddarperir fel tystiolaeth ei drin yn unol â’r gweithdrefnau a ddiffinnir o dan Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) a’r Weithdrefn hon er mwyn sicrhau parhad tystiolaeth a llwybr archwilio clir.

8. Sut rydym yn defnyddio cwcis
Ffeil fach yw cwci y gellir ei osod ar yriant caled eich cyfrifiadur wrth ichi ymweld â gwefan. Mae’r cwci yn helpu i ddadansoddi traffig ar y we neu’n eich galluogi i wybod pan fyddwch yn ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn caniatáu i apiau gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall yr ap ar y we addasu ei weithrediadau i’ch anghenion, y pethau rydych yn eu hoffi ac nad ydych yn eu hoffi trwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydym yn defnyddio cwcis logio traffig i nodi pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data ynghylch traffig tudalennau gwe ac i wella ein gwefan er mwyn ei deilwra i anghenion cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon ac yna caiff y data ei dynnu oddi ar y system.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein cynorthwyo i roi gwell gwefan i chi, trwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi aha rai nad ydynt. Nid yw cwci’n rhoi mynediad i’ch cyfrifiadur neu unrhyw wybodaeth amdanoch chi inni mewn unrhyw ffordd, heblaw am y data rydych chi’n dewis ei rannu gyda ni.

Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch chi addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os yw’n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

9. Cysylltiadau â gwefannau trydydd parti eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych wrth ymweld â safleoedd o’r fath ac nid yw safleoedd o’r fath yn cael eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rydym yn ceisio diogelu uniondeb ein gwefan ac yn croesawu unrhyw adborth ynghylch unrhyw ddolenni trydydd parti a ddarparwn.

10. Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Efallai y byddwch yn dewis cyfyngu ar gasglu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y dulliau dilynol:
• trwy newid y gosodiadau ar eich porwr fel na fyddwch chi’n derbyn cwcis

• pryd bynnag y byddwch yn llenwi ffurflen ar y wefan, byddwn yn gofyn am eich
caniatâd i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol

• os ydych eisoes wedi cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion
marchnata uniongyrchol, fe allwch chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr opsiwn dad-danysgrifio neu drwy e-bostio ni yn enquiries@awen-wales.com

11. Beth yw eich hawliau?
Gallwch ofyn i weld y wybodaeth sydd gennym arnoch chi

Mae gennych yr hawl i ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a’r gwasanaethau a gewch gennym. Pan fyddwn yn derbyn cais yn ysgrifenedig oddi wrthych, rhaid inni roi mynediad i chi i bopeth rydym wedi’i gofnodi amdanoch chi.
Fodd bynnag, ni allwn adael i chi weld unrhyw rannau o’r cofnod sy’n cynnwys:
• gwybodaeth gyfrinachol ynghylch pobl eraill;
• Data y mae gweithiwr proffesiynol yn ystyried y bydd yn achosi niwed difrifol i’ch
lles corfforol neu les meddyliol chi neu rywun arall;
• Os credwn y gallai rhoi gwybodaeth i chi ein hatal rhag atal neu ganfod trosedd

Gallwch ofyn am newid gwybodaeth sy’n eich barn chi yn anghywir
Os ydych chi o’r farn ar unrhyw adeg bod yr wybodaeth rydym yn ei phrosesu arnoch yn anghywir, gallwch ofyn am weld yr wybodaeth hon a hyd yn oed trefnu iddi gael ei chywiro.

Efallai na fyddwn bob amser yn gallu newid neu ddileu’r wybodaeth honno ond byddwn yn cywiro gwallau ffeithiol a gallem gynnwys eich sylwadau yn y cofnod i ddangos eich bod yn anghytuno ag ef.

Gallwch ofyn i ddileu eich gwybodaeth (hawl i gael eich anghofio)
O dan rai amgylchiadau, gallwch ofyn i’ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu, er enghraifft:
• Lle nad oes angen eich gwybodaeth bersonol bellach am y rheswm y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf
• le rydych wedi dileu eich caniatâd i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth (lle nad oes rheswm cyfreithiol arall i ni ei ddefnyddio)
• Lle nad oes rheswm cyfreithiol dros ddefnyddio’ch gwybodaeth
• Lle mae angen dileu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith

Lle mae eich gwybodaeth bersonol wedi’i rhannu ag eraill, byddwn yn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud
i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn cydymffurfio â’ch cais am ddileu.
Sylwch na allwn ddileu eich gwybodaeth lle:

• mae’n ofynnol i ni ei chael yn ôl y gyfraith
• fe’i defnyddir ar gyfer rhyddid mynegiant
• mae ar gyfer dibenion iechyd y cyhoedd
• mae ar gyfer ymchwil wyddonol neu hanesyddol, neu ddibenion ystadegol lle byddai’n golygu na ellir defnyddio gwybodaeth
• mae’n angenrheidiol ar gyfer hawliadau cyfreithiol

Gallwch ofyn i gyfyngu ar yr hyn rydym yn defnyddio’ch data personol amdano

Mae gennych yr hawl i ofyn inni gyfyngu ar yr hyn rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol amdano lle:

• rydych wedi nodi gwybodaeth anghywir, ac wedi dweud wrthym amdano
• lle nad oes gennym reswm cyfreithiol i ddefnyddio’r wybodaeth honno ond rydych am i ni gyfyngu ar yr hyn rydym yn ei ddefnyddio amdano yn hytrach na dileu’r wybodaeth yn gyfan gwbl

Pan gaiff gwybodaeth ei chyfyngu ni ellir ei defnyddio heblaw am storio’r data yn ddiogel ac â’ch caniatâd i ymdrin â hawliadau cyfreithiol a diogelu eraill, neu ble mae ar gyfer buddiannau cyhoeddus pwysig y DU.
Lle rhoddwyd cyfyngiad ar ddefnydd, byddwn yn eich hysbysu cyn i ni barhau i ddefnyddio’ch
gwybodaeth personol.
Mae gennych yr hawl i ofyn inni roi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer unrhyw wasanaeth Awen. Fodd bynnag, os cymeradwyir y cais hwn, gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu’r gwasanaeth hwnnw.
Lle bo modd, byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais, ond efallai y bydd angen i ni ddal neu ddefnyddio
gwybodaeth oherwydd mae’n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith.

Gallwch ofyn i’ch gwybodaeth gael ei symud i ddarparwr arall (cludadwyedd data)
Mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhoi yn ôl i chi neu i ddarparwr gwasanaeth arall o’ch dewis mewn fformat a ddefnyddir yn gyffredin. Gelwir hyn yn gludadwyedd data.
Fodd bynnag, mae hyn ond yn berthnasol os ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol â chaniatâd (nid os yw’r
gyfraith yn ei wneud yn ofynnol) ac os gwnaed penderfyniadau gan gyfrifiadur ac nid person.
Gan nad yw Awen yn defnyddio data personol i wneud unrhyw benderfyniadau awtomatig ac nifydd cludadwyedd data’n gymwys i’r gwasanaethau a gewch gan Awen.
Os hoffech godi cwyn ar sut rydym wedi trin eich data personol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i’r mater.

Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb neu os ydych yn credu nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Ein Swyddog Diogelu Data yw Helen Sage a gallwch gysylltu â hi yn

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Tŷ Bryngarw
Parc Gwledig Bryngarw
Brynmenyn
Pen-y-bont ar Ogwr
CF32 8UU

E-bost: POD@awen-wales.com

Ffôn: 01656 754825

Rhestr o’r cwcis rydym yn eu casglu
Mae’r tabl isod yn rhestru’r cwcis rydym yn eu casglu a pha wybodaeth rydym yn ei storio.
Enw’r CWCI Disgrifiad o’r CWCI
CART Y cysylltiad â’ch cart siopa.
CATEGORY_INFO Mae’n storio’r wybodaeth gategori ar y dudalen, sy’n caniatáu arddangos tudalennau’n gyflymach.
COMPARE Yr eitemau sydd gennych yn y rhestr Cymharu Cynhyrchion.
CURRENCY Eich arian cyfredol dewisol
CUSTOMER Fersiwn wedi’i amgryptio o’ch id cwsmer gyda’r siop.
CUSTOMER_AUTH Dangosydd os ydych chi wedi mewngofnodi i’r siop ar hyn o bryd.
CUSTOMER_INFO Fersiwn wedi’i amgryptio o’r grŵp cwsmeriaid rydych chi’n perthyn iddo.
CUSTOMER_SEGMENT_IDS Mae’n storio ID Segment y Cwsmer
EXTERNAL_NO_CACHE Baner, sy’n nodi a yw storio wedi’I alluogi ai peidio.
FRONTEND Eich ID sesiwn ar y gweinydd.
GUEST-VIEW Mae’n caniatáu i westeion olygu eu harchebion.
LAST_CATEGORY Y categori olaf ichi ymweld ag ef.
LAST_PRODUCT Y cynnyrch diweddaraf rydych wedi’i weld.
NEWMESSAGE Mae’n nodi a dderbyniwyd neges newydd.
NO_CACHE Mae’n dangos a ganiateir defnyddio storfa.
PERSISTENT_SHOPPING_CART Dolen i wybodaeth am eich cart a’ch hanes gweld os ydych wedi gofyn i’r wefan.
POLL ID unrhyw arolygon rydych wedi pleidleisio ynddynt yn ddiweddar.
POLLN Gwybodaeth ynghylch pa bleidleisiau rydych chi wedi pleidleisio arnynt.
RECENTLYCOMPARED Yr eitemau rydych wedi’u cymharu yn ddiweddar.
STF Gwybodaeth ynghylch cynhyrchion rydych wedi’i e-bostio i ffrindiau.
STORE Y golwg storio neu iaith a ddewiswyd gennych.
USER_ALLOWED_SAVE_COOKIE Mae’n dangos a ganiateir i gwsmer ddefnyddio cwcis.
VIEWED_PRODUCT_IDS Y cynhyrchion rydych wedi’u gweld yn ddiweddar.
WISHLIST Rhestr wedi’i hamgryptio o gynhyrchion a ychwanegwyd at eich Rhestr Ddymuniadau.

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe