Mis Hanes Ogwr

Croeso i’n hail Fis Hanes Ogwr blynyddol. Wedi’i drefnu gyda Rhwydwaith Treftadaeth Ogwr, edrychwn ymlaen at fis llawn sgyrsiau hanes, teithiau cerdded a gweithgareddau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ariennir y prosiect hwn gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Sylwer, er bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim, mae llawer o ddigwyddiadau yn gofyn i chi archebu ymlaen llaw.

Eleni mae rhaglen Mis Hanes hefyd yn cynnwys sawl digwyddiad lle mae’n rhaid prynu tocynnau, gan gynnwys ffilmiau hanesyddol, a sioe gomedi wedi’i hysbrydoli gan hanes. Mae yna hefyd nifer o Ddiwrnodau Agored am ddim ledled y sir drwy gydol mis Medi, a gynhelir mewn cydweithrediad â gŵyl Drysau Agored CADW.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch naill ai gysylltu â’r lleoliad ar gyfer y digwyddiad penodol, neu gallwch e-bostio: history@awen-wales.com

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn nigwyddiadau’r Mis Hanes drwy gydol mis Medi!

*Mae tocynnau a gweithgareddau ar gael ar sail cyntaf i’r felin, a gall sgyrsiau newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyfleu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn uniongyrchol i ddeiliaid tocynnau

Digwyddiadau

Mawrth 2 – 7pm

Sgwrs hanes – ‘Arthur a Seintiau Cymreig yr Oes Dywyll’

Tafarn gymunedol y Three Horse Shoes, Cefn Cribwr

Dim angen archebu

Graham Loveluck-Edwards sy’n trafod Seintiau Cymreig yr Oes Dywyll a’r cysylltiad rhwng y cenhadon hyn a phoblogrwydd y straeon am y Brenin Arthur.

Merched 3 – 2.15pm

Sgwrs hanes – ‘Seintiau Cymreig’ (Sgwrs Gymraeg)

Llyfrgell Porthcawl

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Rhian Rees sy’n siarad am y seintiau Cymreig a’r effaith a gawsant ar hanes a diwylliant Cymru yn y sgwrs Gymraeg hon.

Iau 4 – 11.30m

Sgwrs hanes – ‘Hunting the Bullseye Killer: How TV Archives Helped to Snare a Murderer.’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol – am ddim

Y newyddiadurwr a chyflwynydd newyddion ITV Cymru Jonathan Hill, cyd-awdur ‘The Pembrokeshire Murders: Catching the Bullseye Killer’, sy’n esbonio sut y gwnaeth archifau teledu helpu i ddal y ‘Bullseye Killer’.

Iau 4 – 7pm

Sinema – ‘Mr Burton’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol: £5-£5.50

Stori anhygoel athro a ysbrydolodd fachgen ifanc o Bont-rhyd-y-fen i ddod yn un o actorion gorau ei genhedlaeth.

Sadwrn 6 – 12 pm-4.30pm

Diwrnod Agored ac arddangosfa

Neuadd y Dref Maesteg

Dim angen archebu

Dewch i ymweld ag awditoriwm Neuadd y Dref wedi’i hadfer, sydd am un diwrnod yn cynnal arddangosfa arbennig gan VisionFountain, ‘Cymru: Cartref Oddi Cartref’

Sul 7 – 3pm

Taith Gerdded Hanes – Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Mae archebu’n hanfodol – am ddim

Ymunwch â’r hanesydd Graham Loveluck-Edwards ar daith gerdded drwy amser yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r daith gerdded hon yn addas ar gyfer pob oedran a gallu.

Llun 8 – 7.30pm

Cyfarfod cyhoeddus  – Cymdeithas Hanes Bro Ogwr (Digwyddiad Cymraeg)

Tafarn y Three Horse Shoes, Cefn Cribwr

Dim angen archebu

Ymunwch â Chymdeithas Hanes Bro Ogwr ar gyfer cyfarfod cyhoeddus, gyda sgwrs gan Gwyn Roberts am Dryweryn. Mae’r sgwrs Gymraeg hon hefyd ar gael drwy Zoom.

Mawrth 9 – 11am

Sgwrs Hanes – ‘Porthladdoedd Cymru a rhagchwiliadau’r Ail Ryfel Byd gan yr Almaenwyr’

Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr

Archebwch drwy’r  llyfrgell – am ddim

Nigel Robins sy’n esbonio popeth am Borthladdoedd De Cymru a hanes Rhagchwiliadau o’r Awyr yr Almaenwyr.

Mawrth 9 – 11am-5pm

Arddangosfa – ‘Cymru: Cartref Oddi Cartref’

Llyfrgell y Pîl

Dim angen archebu

Mae ‘Cymru: Cartref Oddi Cartref’ yn arddangosfa amlgyfrwng ryngweithiol gan VisionFountain. Yn ddiweddar roedd yr arddangosfa yn y Senedd, ac mae’n cynnwys straeon a gasglwyd o gymunedau amrywiol Cymru.

Mawrth 9 -2pm

Sgwrs Hanes – ‘Y Normaniaid yn ne Cymru’

Llyfrgell y Pîl

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Cafodd y Normaniaid effaith fawr pan gyrhaeddon nhw dde Cymru yn yr 11eg ganrif. Mae John Richards yn dweud wrthym bopeth amdanyn nhw.

Merched 10 – 7pm

Sinema – ‘Mr Burton’

Neuadd y Gweithwyr Blaengarw

Mae archebu’n hanfodol: £5-£5.50

Stori anhygoel athro a ysbrydolodd fachgen ifanc o Bont-rhyd-y-fen i ddod yn un o actorion gorau ei genhedlaeth.

Iau 11 – 2pm

Sgwrs Hanes – ‘Hunaniaeth Gymreig a’r Ail Ryfel Byd’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol – am ddim

Bydd yr Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe yn archwilio sut effeithiodd yr Ail Ryfel Byd ar ymdeimlad pobl o fod yn Gymry.

Iau 11 – Sadwrn 13: 11am-4pm

Arddangosfa: ‘Yr Hen Bont Garreg 600’

Tŷ Carnegie, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae archebu’n hanfodol – am ddim

I ddathlu pen-blwydd yr hen bont garreg yn 600 oed, mae Cymdeithas Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cylch wedi creu’r arddangosfa arbennig hon.

Iau 11 – 7pm

Sinema: ‘The Color Purple’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol: £5-£5.50

Fersiwn gerddorol 2023 o’r stori hon am chwaeroliaeth anhygoel tair menyw yn Ne’r Unol Daleithiau yn ystod y 1900au cynnar.

Gwener 12 – 2pm

Sgwrs Hanes – ‘Esbonio Lleoedd yng Nghymru yn yr  Oesoedd Canol’

Llyfrgell y Pîl

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Roedd awduron yr Oesoedd Canol yn cysylltu trefi a mynyddoedd â brenhinoedd, proffwydi a brwydrau chwedlonol. Bydd Dr Rebecca Thomas yn archwilio’r ffenomen hon a’r hyn y mae’n ei ddweud wrthym am hunaniaethau yn yr Oesoedd Canol.

Sadwrn 13 – 10am-4pm

Diwrnod Agored – Cymdeithas Treftadaeth Cwm Garw

Capel y Tabernacl, Pontycymer

Dim angen archebu

Ymunwch â Chymdeithas Treftadaeth Cwm Garw ar gyfer Diwrnod Agored, gydag arddangosfeydd treftadaeth a pherfformiad arbennig ar yr organ.

Sad 13: 10am-2pm

Diwrnod Agored – Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg

Canolfan Adnoddau Abercynffig

Dim angen archebu

Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg yn cynnal diwrnod agored, gyda chyfleoedd ar gyfer ymchwil a gwirfoddolwyr wrth law i helpu gydag ymholiadau.

Sul 14: 11am-3pm

Diwrnod Agored – Tŷ Sant Ioan

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr

Dim angen archebu

Dewch i ymweld â’r annedd gyfanheddol hynaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dysgwch bopeth am hanes y tŷ hanesyddol diddorol hwn.

Llun 15: 10.30am

Taith Gerdded Hanes – Parc Gwledig Bryngarw

Parc Gwledig Bryngarw

Taith gerdded am ddim; rhaid talu am barcio

Ymunwch â Rheolwr Parc Bryngarw, Adam, ar gyfer taith gerdded astudiaethau natur o amgylch Parc Gwledig Bryngarw – argymhellir esgidiau cerdded!

Mawrth 16 – 2.15pm

Sgwrs Hanes – ‘Y Ferch o Gefn Ydfa’

Llyfrgell Abercynffig

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Efallai fod ‘Y Ferch o Gefn Ydfa’ yn stori garu drasig, ond mae Anna Rankin yn esbonio’r hanes y tu ôl i’r chwedl leol hon.

Mawrth 16 – 4pm

Sgwrs Hanes – ‘Bywyd ac Amserau Gerallt Gymro’

Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Colin Wheldon James sy’n sôn am fywyd ac amserau’r offeiriad a’r hanesydd o’r 12fed ganrif, Gerallt Gymro.

Mawrth 16 – 6pm

Sgwrs Hanes BSL – ‘Y Llychlynwyr yng Nghymru’ (BSL)

Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Emily Rose tywysydd teithiau iaith arwyddion Prydain sy’n arwain taith yn olrhain hanes y Llychlynwyr yng Nghymru.

Mawrth 16 – 7pm

Sgwrs Hanes – ‘Cymeriadau a helpodd i lunio Porthcawl.’

Hi Tide, Porthcawl

£1

Mae sgwrs Ceri Joseph yn tynnu sylw at rai o gymeriadau mwyaf dylanwadol Porthcawl dros 200 mlynedd o hanes y dref.

Merched 17 – 2.15pm

Sgwrs Hanes – Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd

Llyfrgell Pencoed

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Phil Cope sy’n siarad am hanes Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac mae’n dod ag eitemau Olympaidd cofiadwy gydag ef ar gyfer y sgwrs ddiddorol hon.

Merched 17 – 7pm

Sioe: ‘Pum camgymeriad a newidiodd hanes’

Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol: £22.50-£23.50

Sioe adrodd straeon hanesyddol doniol am bump o bobl a sut y newidiodd eu camgymeriadau (mawr a bach!) y byd. Perfformir gan yr hanesydd a’r digrifwr Paul Coulter.

Iau 18 – 2pm

Trafodaeth Hanes – ‘Goresgyniad Normanaidd 1066’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae angen archebu – am ddim

Ymunwch â’r haneswyr Colin Wheldon James a David Pilling ar gyfer trafodaeth ddifyr ar oresgyniad Normanaidd 1066.

Iau 18 – 7pm

Sinema: ‘Oppenheimer’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol: £5-£5.50

Ffilm a enillodd Oscar am hanes y gwyddonydd Americanaidd, J. Robert Oppenheimer a’i rôl yn natblygiad y bom atom.

Sadwrn 20 -11.30am

Digwyddiad i blant: ‘Straeon a the’

Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr

Dim angen archebu

Ymunwch â morwyn Edwardaidd ar gyfer te bore arbennig yn Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â straeon am fywyd yn oes Edward.

Sadwrn 20 – 9am-1pm

Diwrnod Agored – Cymdeithas Hanes Lleol Cwm Ogwr

Canolfan Treftadaeth Cwm Ogwr, Y Mem, Nant-y-moel

Dim angen archebu

Mae Cymdeithas Hanes Lleol Cwm Ogwr yn croesawu pawb i’r Ganolfan Treftadaeth, sy’n llawn arddangosfeydd hanes ac eitemau cofiadwy Cwm Ogwr.

Sadwrn 20 – 2pm

Taith Gerdded Hanes: ‘Teyrnas Bedford’

Parc Bedford, Cefn Cribwr

Dim angen archebu

Bydd y daith gerdded hon yng nghwmni Cefn Gwyrdd yn mynd â chi o amgylch Gwaith Haearn Bedford. Mae’r daith gerdded gylchol yn dechrau ac yn gorffen wrth y wal hanes gyferbyn â’r dafarn gymunedol Three Horse Shoes yng Nghefn Cribwr.

Mawrth 23 – 2pm

Sgwrs Hanes – ‘Mynachaeth yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol’

Llyfrgell y Pîl

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Peter Rees sy’n trafod y rôl a chwaraeodd tai mynachaidd ym mywyd crefyddol, diwylliannol ac economaidd Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Merched 24 – 2pm

Sgwrs Hanes – ‘Cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Archifau Morgannwg’

Y Nyth, Parc Gwledig Bryngarw

Mae angen archebu – am ddim

Darganfyddwch gofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol sydd wedi’u hadneuo yn Archifau Morgannwg, a’r hyn y gallant ei ddweud wrthym am y diwydiant glo a’r cymunedau a grëwyd ganddo.

Iau 25 -11.30am

Sgwrs Hanes: ‘Enwau lleoedd hanesyddol’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol – am ddim

Dr James January-McCann sy’n esbonio’r hanes y tu ôl i’n henwau lleoedd, gan gynnwys ymchwil newydd ar hanes enwau lleoedd Morgannwg.

Iau 25 – 6pm

Taith Gerdded Hanes: Merthyr Mawr

Merthyr Mawr

Mae archebu’n hanfodol – am ddim

Ymunwch â Graham Loveluck Edwards ar gyfer y daith gerdded hon yn gynnar gyda’r nos o amgylch pentref hanesyddol Merthyr Mawr.

Iau 25 – 7pm

Sinema: ‘Hidden Figures’

Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg

Mae archebu’n hanfodol: £5-£5.50

Yn y 1960au, chwaraeodd tair menyw a oedd yn fathemategwyr Affricanaidd-Americanaidd ran ganolog yn y gwaith o lansio’r gofodwr Americanaidd cyntaf i gylchdro’r Ddaear

Gwener 26: 11am

Sgwrs Hanes – Teulu Williams o Newcastle Hill

Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr

Archebwch drwy’r llyfrgell – am ddim

Ian Price sy’n esbonio sut y gwnaeth y teulu Williams o Ben-y-bont ar Ogwr adael ei farc ar wahanol agweddau ar fywyd y 19eg ganrif.

Sadwrn 27 – 11am

Digwyddiad i blant:

‘Straeon a the’

Llyfrgell Maesteg

Dim angen archebu

Ymunwch â morwyn Edwardaidd ar gyfer te bore arbennig yn Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â straeon am fywyd yn oes Edward.

Sadwrn 27 -11am-3pm

Diwrnod Agored Diwrnod Elvis

Amgueddfa Porthcawl

Dim angen archebu

Fel rhan o Ŵyl Elvis Porthcawl, mae Amgueddfa Porthcawl yn cynnal Diwrnod Agored arbennig – cyfle gwych i ddarganfod trysorau’r amgueddfa.

Sadwrn 27 – 9am-1pm

Sesiwn gyhoeddus

Ysgol Gynradd Cwm Ogwr

Dim angen archebu

Ymunwch â Chymdeithas Hanes Lleol Cwm Ogwr ar gyfer y sesiwn gyhoeddus hon yn Ysgol Gynradd Ogwr, sy’n cynnwys mynediad i gofeb y glowyr ac arddangosfa gelf gyda gweithiau gan artistiaid lleol.

Sadwrn 27 – 11am-3pm

Diwrnod Agored

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr

Dim angen archebu

Darganfyddwch yr annedd gyfanheddol hynaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr! Ar gyfer y penwythnos hwn mae Tŷ Sant Ioan yn croesawu saethwyr canoloesol ac yn cynnal arddangosfa gan berlysieuydd.

Sul 28 – 11am-3pm

Diwrnod Agored

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr

Dim angen archebu

Ar gyfer y penwythnos agored hwn, mae Tŷ Sant Ioan yn croesawu saethwyr canoloesol a pherlysieuydd sy’n arddangos eitemau amrywiol.

Mawrth 30 – 7pm

Sgwrs Hanes: Cymreictod Oliver Cromwell

Tafarn Three Horse Shoes, Cefn Cribwr

Dim angen archebu

Lloyd Bowen, Athro Hanes Modern Cynnar ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn trafod Cymreictod Oliver Cromwell.

 

Hoffech chi wybod mwy am eich hanes lleol, neu gefnogi eich cymdeithas hanes leol?

Isod mae rhestr gyda’r manylion cyswllt ar gyfer cymdeithasau hanes lleol.

Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg                                        secretary2@glamfhs.org.uk

Cymdeithas Hanes Cwm Llynfi                                                   neilperry382@btinternet.com

Cymdeithas Treftadaeth Cwm Garw                                           jarvismob@tiscali.co.uk

Cymdeithas Hanes Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cylch                              committee.brid.hist.soc@gmail.com

Cefn Gwyrdd                                                                             masoncj4@hotmail.com

Cymdeithas Hanes Lleol Cwm Ogwr                                           ovlhs@ovlhs.co.uk

Cymdeithas Hanes Bro Ogwr                                                      arw.cleaves@gmail.com

Cymdeithas Porthcawl a Chymdeithas Hanesyddol Porthcawl     porthcawlmuseum@hotmail.com

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr                                               saintjohns@hotmail.com.uk

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen – Llyfrgell Treftadaeth ac Archif    

history@awen-wales.com

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe